Tystebau

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi gweithio'n llwyddiannus ar gannoedd o brosiectau i gwmnïau bwyd a diod yn lleol a chenedlaethol. Mae'r astudiaethau achos yn rhannu rhai o'r straeon hyn ac yn tynnu sylw at y profiadau cadarnhaol a gafodd y cwmnïau wrth weithio gyda thîm y Ganolfan.

Llaethdy Pentrefelin Dairy

Llaethdy Pentrefelin Dairy

Mae Pentrefelin, fferm deuluol fechan yn Llandyrnog, Dyffryn Clwyd, yn llaethdy micro gwartheg a lloi sy’n godro llond llaw o wartheg brîd treftadaeth Red Poll.

Dewch i wybod mwy...
HALEN MON

Halen Môn - Anglesey Sea Salt

Ar gyrion y Fenai yn Ynys Môn, dechreuodd busnes cynhyrchu bwyd arloesol yn 1997 pan adawodd yr entrepreneuriaid Alison Lea-Wilson a Nicki Hughes badell o ddŵr môr yn byrlymu ar yr Aga. Datgelwyd yr halen môr eithriadol sydd bellach yn cael ei adnabod fel Halen Môn ac ers hynny mae wedi ennill statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig.

Dewch i wybod mwy...
SOC

Seas of Change

Gydag arian yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru, ffurfiwyd partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a busnes pysgod cregyn lleol, Cwmni Bwyd Môr Menai, i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o ffermio cregyn gleision o amgylch Cymru.

Dewch i wybod mwy...
Mountain Produce

Mountain Produce

Wedi’i sefydlu yn 2013, mae Mountain Produce yn tyfu cynnyrch salad deiliog, sy’n cynnwys letys, egin bys a berwr y dŵr, gan werthu i dafarndai a bwytai lleol ac ehangu eu cynhyrchiant bob blwyddyn i ateb y galw.

Dewch i wybod mwy...
Angel Feathers

Angel Feathers

Mae Angel Feathers yn ddistyllfa deuluol fechan yn Sir Ddinbych, gogledd Cymru sy’n cynhyrchu jin, fodca a rỳm gyda natur a chynaliadwyedd yn greiddiol iddi. Wedi'u lleoli ar Foel Famau, y copa uchaf ym Mryniau Clwyd, mae popeth yn cael ei ddewis, ei baratoi a'i saernïo yn eu cegin eu hunain sydd â sgôr hylendid bwyd pum seren.

Dewch i wybod mwy...
Snowdonia Wagyu

Snowdonia Wagyu

Mae tîm Snowdonia Wagyu yn ymfalchïo mewn cynhyrchu cig eidion Wagyu o’r ansawdd gorau ac yn gofalu’n angerddol am les yr anifeiliaid, yr amgylchedd a ffermio’n gynaliadwy.

Dewch i wybod mwy...

Bragdy Môn

Ar ôl derbyn nawdd gan Brosiect HELIX, roedd Bragdy Môn yn gallu mynychu gweithdy bragu cychwynnol, mewn partneriaeth â Brewlab, yn y Ganolfan Technoleg Bwyd.

Dewch i wybod mwy...

Dylan's Restaurants

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn cefnogi Dylan's ers 2015 ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Roedd Dylan's eisiau mentro i farchnadoedd newydd drwy ddatblygu fersiynau wedi eu hoeri o'u sawsiau o'r safon a geir mewn bwyty.

Dewch i wybod mwy...

Edwards of Conwy

Mae Edwards o Gonwy wedi bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd ers 2017 ar nifer o brosiectau. Ar ôl prynu safle cynhyrchu arall yn 2017 roedd angen iddyn nhw ehangu eu gweithlu er mwyn helpu gyda gofynion y safle newydd.

Dewch i wybod mwy...

Coco Pzazz

O dan Project HELIX cysylltodd y cwmni â’r Ganolfan Technoleg Bwyd i gael cefnogaeth gyda’u Dadansoddiad o’r Bylchau SALSA blynyddol.

Dewch i wybod mwy...

Lockdown Lobsters

Dechreuodd Lockdown Lobsters ym mis Mawrth 2020 gyda chenhadaeth syml i helpu pysgotwr, Siôn Williams, o ogledd Cymru i werthu ei gimychiaid, sy’n cael eu dal yn gynaliadwy, yn Llundain yn ystod cyfnod clo COVID-19

Dewch i wybod mwy...

9 Meals From Anarchy

Dechreuodd 9 Meals From Anarchy, sydd wedi’i leoli yn Saltney, sy’n ffinio â Sir y Fflint a Swydd Gaer, drwy dyfu llysiau organig o ansawdd uchel a’u dosbarthu i gwsmeriaid a bwytai lleol.

Dewch i wybod mwy...

Hilltop Honey

Ers diwedd 2018, mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi darparu cyfoeth o gefnogaeth gyda phrofion cynnyrch a hyfforddiant.

Dewch i wybod mwy...

Parisella Ice Cream

Ar ôl derbyn nawdd gan Brosiect HELIX, gofynnodd Hufen iâ Parisella am gymorth gan Ganolfan Technoleg Bwyd i gael achrediad SALSA.

Dewch i wybod mwy...

Patchwork Foods

Ar ôl cael nawdd gan Brosiect HELIX, gofynnodd Patchwork Foods i'r Ganolfan Dechnoleg Fwyd helpu ymestyn cyfnod cynnyrch eu pâté iau cyw iâr a rhoi profion i ddetholiad eang o'u cynnyrch - siytni, jam, relish a marmalêd.

Dewch i wybod mwy...

Red Boat Ice Cream Parlour Ltd

Roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn gweithio gyda Red Boat ers nifer o flynyddoedd pan ofynnodd y cwmni hufen iâ iddyn nhw am gyngor yn 2019 ynglŷn ag ennill achrediad SALSA i'w parlwr hufen iâ yn Biwmaris.

Dewch i wybod mwy...

Sabor de Amor

Dros y blynyddoedd mae Sabor de Amor wedi cael cefnogaeth gan Brosiect HELIX drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni i ddatblygu cynnyrch a chanllawiau i'w helpu i gadw ei lefel SALSA.

Dewch i wybod mwy...

The Pudding Compartment

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn cefnogi The Pudding Compartment ers iddyn nhw greu eu cynnyrch cyntaf dros ddegawd yn ôl. Yn 2012, roedd y cwmni eisiau ennill achrediad SALSA ond nid oedd y safle cyntaf yn Abergele yn addas.

Dewch i wybod mwy...