Trosglwyddo Gwybodaeth i’r sector Bwyd a Diod
Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn 1999 ac mae’n chwarae rôl allweddol o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn 1999 ac mae’n chwarae rôl allweddol o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn darparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddi i gefnogi unigolion sy'n gweithio ar bob lefel o fewn busnesau bwyd.
Mae'r GTB yn cartrefu tair neuadd brosesu a chegin brawf, gyda phob neuadd ag arwynebedd llawr ar gyfartaledd o 85 metr sgwâr, wedi eu neilltuo i gig, cynnyrch llaeth a physgod.
Cynhyrchion sydd wedi'u datblygu a'u gweithgynhyrchu yn y Ganolfan Technoleg Bwyd. Mae'r ganolfan wedi cynnal sawl prosiect ar gyfer cwmnïau lleol a chenedlaethol.
Cynigir cyngor ar amrywiaeth mawr o bynciau sy'n ymwneud â bwyd, yn cynnwys dehongli deddfwriaeth bwyd, labelu a llu o faterion rheoliadol a thechnegol eraill.
Mae Arloesi Bwyd Cymru a Prosiect Helix yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i adnabod ffyrdd o gyflwyno arbedion ar draws rheolyddion proses, dylunio safleoedd, datblygu systemau, cynaliadwyedd a mwy.