Snowdonia Wagyu

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cynnig cymorth a chyngor ar brosiectau amrywiol i’r cwmni.

Snowdonia Wagyu

Yn swatio ym mryniau Eryri ger Caernarfon, mae cwmni Snowdonia Wagyu yn wahanol iawn gan eu bod yn bridio cig eidion Wagyu, cig drutaf y byd oherwydd y ffordd y mae’n cael ei fagu.

Yn adnabyddus am ei frithder anhygoel sy'n rhoi ei dynerwch unigryw a'i flas menynaidd iddo, mae Wagyu yn frid o wartheg sy'n frodorol i Japan. Mae tîm Snowdonia Wagyu yn ymfalchïo mewn cynhyrchu cig eidion Wagyu o’r ansawdd gorau ac yn gofalu’n angerddol am les yr anifeiliaid, yr amgylchedd a ffermio’n gynaliadwy.

Mae’r gwartheg Wagyu yn cael eu magu’n araf ar laswellt am tua thair blynedd, mewn ardal o’r DU na all dyfu cnydau eraill yn effeithiol. Mae angen amgylchedd di-straen ar y gwartheg fel eu bod yn llosgi llai o fraster ac yn cyflawni'r brithder cywir.

Mae cig eidion Wagyu hefyd yn cael ei ystyried yn opsiwn iach gan ei fod yn cynnwys canran uchel o asidau brasterog omega-3 ac omega-6 gyda'i frithder dwys, sy’n gwella’r gymhareb brasterau mono-annirlawn.

Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cynnig cymorth a chyngor ar brosiectau amrywiol i’r cwmni. Penodwyd technolegydd bwyd ar gyfer Snowdonia Wagyua oedd yn eu mentora i gynhyrchu cig eidion Wagyu, a’u HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol) i fodloni gofynion cyfreithiol.

Ar yr ochr gynhyrchu, roedd y ganolfan yn gallu helpu i leihau costau gweithgynhyrchu byrgers Snowdonia Wagyu. Cymerodd y cwmni ran yn sesiynau trosglwyddo gwybodaeth ymarferol y Ganolfan Technoleg Bwyd a ddangosodd i Snowdonia Wagyu sut i weithio yn ôl cyflenwi a galw yn ôl y tymor.

Roedd prosiectau eraill yn cynnwys profi oes silff gyda phrofion sefydlogrwydd microbiolegol, datblygu cynnyrch newydd i ychwanegu gwerth at gynnyrch trwy eu gweithgynhyrchu yn salami o ansawdd uchel, a hefyd gwerthusiadau maethol ar paté cig eidion Snowdonia Wagyu.

Darparodd y ganolfan hefyd gymhariaeth faethol lawn i gymharu’r gwahaniaethau maethol rhwng cig eidion Snowdonia Wagyu â chig eidion masnachol wedi’i fwydo â glaswellt er mwyn i’r busnes helpu i farchnata eu cynnyrch.

Manteision y gefnogaeth

Dywedodd Sioned Pritchard, perchennog a sylfaenydd Snowdonia Wagyu, “Mae’r cymorth a’r gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn gan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn wych. Rydym wedi gallu gofyn iddynt ein cefnogi ar nifer o brosiectau, o'n helpu gyda chynhyrchu i edrych ar ddatblygu cynnyrch newydd. Yn fwy diweddar, maent wedi bod yn profi ein cynnyrch ar gyfer gwerthusiad maethol i’n cynorthwyo gyda labelu, ac yna darparu adroddiad llawn i ni ar fanteision bwyta cig eidion Snowdonia Wagyu.

“Mae’r holl waith maen nhw wedi’i wneud wedi golygu ein bod ni wedi gallu marchnata ein cynnyrch, gwerthu i fanwerthwyr a chynyddu ein gwerthiant.”


https://www.snowdoniawagyu.co.uk/

Snowdonia Wagyu