Edwards o Gonwy

Mae Edwards o Gonwy wedi bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd ers 2017 ar nifer o brosiectau. Ar ôl prynu safle cynhyrchu arall yn 2017 roedd angen iddyn nhw ehangu eu gweithlu er mwyn helpu gyda gofynion y safle newydd.

CEFNDIR

Mae Edwards o Gonwy yn gigydd traddodiadol Cymreig adnabyddus arobryn ac yn gwneud selsig a phasteiod yng Nghonwy, tref treftadaeth y byd hanesyddol hardd yng Ngogledd Cymru.

Dechreuodd ein sefydlydd a'n prif gigydd, Ieuan Edwards, mab fferm o Ddyffryn Conwy, ei brentisiaeth yn nhref farchnad Llanrwst. Yn 1984, pan oedd ond yn 20 oed, ar ôl rhai blynyddoedd yn dysgu "Y Grefft o Gigyddiaeth" agorodd Ieuan ei siop gigydd ei hun. Roedd yn benderfynol mai hon fyddai'r siop gigydd orau yn y DU.

Mae Edwards o Gonwy wedi ennill nifer o wobrau, gan gipio'r teitl "Siop Gigydd orau Cymru" dair gwaith a theitl Cigydd Gorau Prydain yn 2014. Hyd yn hyn, mae Edwards o Gonwy wedi derbyn dros 200 o wobrau am eu cynnyrch.

Ar hyd yr holl flynyddoedd hynny mae'r cwmni wedi parhau i fod yn driw i'w gwerthoedd craidd, sef cynnig cynnyrch Cymreig lleol o safon, dangos balchder yn eu treftadaeth a chefnogi'r gymuned, gan ddefnyddio cynifer o ddulliau a ryseitiau traddodiadol â phosib.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Mae Edwards o Gonwy wedi bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd ers 2017 ar nifer o brosiectau. Ar ôl prynu safle cynhyrchu arall yn 2017 roedd angen iddyn nhw ehangu eu gweithlu er mwyn helpu gyda gofynion y safle newydd.

Ym mis Hydref 2018, cysylltodd y cwmni â'r Ganolfan Technoleg Bwyd a argymhellodd Raglen Drosglwyddo Gwybodaeth HELIX a thrwy hyn llwyddon nhw i recriwtio person graddedig. Ymhen dim o dro roedd y person graddedig yn gallu arwain ar feysydd allweddol a'u helpu nhw i ennill achrediad BRC o fewn 6 mis a'r achrediad Tractor Coch yn fuan wedi hynny.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

O ganlyniad i'r gefnogaeth, cyflogodd Edwards o Gonwy berson graddedig, ei ddatblygu a'i fentora er mwyn sicrhau bod y sgiliau perthnasol angenrheidiol ganddo ar gyfer y diwydiant cig ond yn fwy penodol ar gyfer safonau diogelwch bwyd. Arweiniodd hyn at y cwmni'n ennill yr achrediadau BRC a Thractor Coch perthnasol. Rhan allweddol o hyn yw cymryd amser i ddarganfod person sydd eisoes yn meddu ar y gallu a'r brwdfrydedd cywir ac yn fodlon datblygu ei sgiliau ei hun.

Ar ôl ennill yr achrediadau BRC a Thractor Coch, mae'r cwmni bellach mewn sefyllfa gryfach i ddatblygu a gwella cynnyrch newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

Dywedodd Simon James, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards o Gonwy,

O ganlyniad i weithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd, rydyn ni wedi gallu cyflogi rhywun sydd â llawer o allu a brwdfrydedd, sydd wedi cael ei fentora ac wedi datblygu'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol er mwyn helpu cyrraedd at ein nod o ennill achrediad BRC ac achrediad sicrwydd bwyd Tractor Coch yn ein safle newydd. Rydyn ni'n argymell Prosiect HELIX i gwmnïau bwyd sydd angen cymorth i ennill achrediad. Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi ei chael gan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn amhrisiadwy ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.

www.edwardsofconwy.co.uk