Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coco Pzazz

O dan Project HELIX cysylltodd y cwmni â’r Ganolfan Technoleg Bwyd i gael cefnogaeth gyda’u Dadansoddiad o’r Bylchau SALSA blynyddol.

CEFNDIR

Mae Rural Foodies yn gartref i’r brand gydag achrediad SALSA ar waith.” siocled crefftus llwyddiannus Coco Pzazz. Wedi’u lleoli yn Powys, maen nhw’n datblygu ac yn cynhyrchu siocled a chyffug yn eu ffatri siocled eu hunain yng Ngweithdai Pentref Caersws.

Maen nhw’n cyflogi chwech aelod o staff a bob amser yn chwilio am flasau a phartneriaethau newydd cyffrous. Mae eu nwyddau yn defnyddio cynnyrch lleol o bob rhan o Gymru, fel halen môr Cymreig a choffi o Eryri. Mae ganddyn nhw hefyd gefndir moesegol ac amgylcheddol cryf, er enghraifft gweithio gydag artistiaid lleol i ddarparu dyluniadau ar gyfer pecynnau, ac maen nhw’n ymfalchïo mewn rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned ac elusennau lleol.

Gan adeiladu ar hyn, aethon nhw trwy broses o ail-frandio ar ddiwedd 2019, a arweiniodd atyn nhw’n cryfhau eu eco-gymwysterau ymhellach trwy ddefnyddio bio-ffilm yn lle plastig a dim ond cardfwrdd cynaliadwy o ffynonellau ardystiedig ar gyfer eu siocledi.

Mae nwyddau Coco Pzazz yn eistedd yn gyffyrddus yn y farchnad fwyd crefftus ac maen nhw’n boblogaidd mewn amrywiaeth o amgylcheddau manwerthu, er enghraifft siopau fferm, delis, canolfannau garddio a siopau rhodd, yn ogystal â gyda chwmnïau hamper a’r diwydiant lletygarwch.

Mae nwyddau Coco Pzazz hefyd i’w cael mewn siopau siocled arbenigol a nifer cynyddol o westai a chaffis.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

O dan Project HELIX cysylltodd y cwmni â’r Ganolfan Technoleg Bwyd i gael cefnogaeth gyda’u Dadansoddiad o’r Bylchau SALSA blynyddol. Dywedodd Susan Allison Lane, Technolegydd Bwyd,

Rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Rural Foodies ers nifer o flynyddoedd ac erbyn hyn mae gan y tîm yr holl systemau rheoli ansawdd angenrheidiol ar waith i gyrraedd safonau uchel SALSA, a diolch i’r staff rhagorol yn Rural Foodies mae blwyddyn gyffrous o’u blaenau. Mae’r trosglwyddiad gwybodaeth fel rhan o Brosiect HELIX yn caniatáu iddyn nhw ddod yn fwy hunangynhaliol a gobeithio y bydd mwy o gyfleoedd gydag achrediad SALSA ar waith.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Dywedodd Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Coco Pzazz Lori Whinn,

Ers i ni ddod yn wneuthurwyr siocled damweiniol yn 2013, mae ein detholiad o fotymau a bariau siocled wedi esblygu’n gyson wrth i ni groesawu blasau a phecynnau newydd. Gan ein bod yn gynhyrchydd bwyd bach allwn ni ddim bod yn arbenigwr ym mhob maes, felly mae cael y Ganolfan Technoleg Bwyd wrth law i wneud synnwyr o bopeth wedi bod yn amhrisiadwy.
Dros y blynyddoedd rydym ni wedi ehangu ac angen achrediadau SALSA ar gyfer ein cwsmeriaid mwy, felly’r Ganolfan Technoleg Bwyd oedd ein pwynt cyswllt cyntaf. I ddechrau cawsom ni ein dychryn gan y syniad o archwiliad ond maen nhw wedi ein tywys yn fedrus ar hyd y ffordd.
Mae’r broses wedi bod yn wych, mae eu technolegydd bwyd yn dod i wneud cyn-archwiliad ac yna’n cywiro diffygion ein systemau i nodi unrhyw wendidau. Erbyn hyn rydym ni wedi cwblhau pedwar archwiliad blynyddol ac wedi eu cyflawni’n hawdd bob blwyddyn.
Trwy gydol ein taith maen nhw wastad wedi gwrando ar ein syniadau ni, maen nhw yno bob amser ar gyfer unrhyw gwestiynau sydd gennym ni ar ddatblygu cynnyrch, labelu cynnyrch ac ymchwil. Maen ganddyn nhw gyfoeth o brofiad sy’n amhrisiadwy i fusnes bwyd bach fel ni.
Nawr mae gennym ni archwiliadau SALSA gwych na fyddai wedi bod yn bosibl heb eu cefnogaeth nhw. Wrth edrych i’r dyfodol, rydym ni wastad yn gwybod eu bod nhw yno ar gyfer unrhyw ddatblygiad rydym ni eisiau ei wneud yn y dyfodol fel pecynnau neu gynhyrchion newydd, neu symud i adeilad mwy.

www.cocopzazz.co.uk