Seas of Change

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi prosiect Seas of Change drwy ganolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch a sut i brosesu’r cregyn gleision ar y môr i’w gwerthu i gwsmeriaid.

CEFNDIR

Gydag arian yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru, ffurfiwyd partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a busnes pysgod cregyn lleol, Cwmni Bwyd Môr Menai, i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o ffermio cregyn gleision o amgylch Cymru.

O dan ymbarél Seas of Change, treialodd y prosiect sawl system lein hir wahanol i dyfu cregyn gleision, gan hongian rhaffau y gellir eu hailddefnyddio yn y dyfroedd glân sawl cilomedr oddi ar arfordir Bae Conwy.

Yn y dyfroedd hynod gynhyrchiol hyn, setlodd y cregyn gleision yn naturiol a ffynnu heb unrhyw fewnbynnau ychwanegol. Mae’r prosiect Seas of Change bellach yn dathlu eu cynhyrchiant pysgod cregyn ar y môr fel un o’r ffyrdd mwyaf cynaliadwy o gynhyrchu cregyn gleision.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi prosiect Seas of Change drwy ganolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch a sut i brosesu’r cregyn gleision ar y môr i’w gwerthu i gwsmeriaid.

Gyda chymorth technolegydd bwyd penodedig, arweiniwyd y prosiect drwy bob proses roedd angen iddynt ei bodloni o ran diogelwch bwyd a gofynion cyfreithiol i werthu eu cynnyrch i'r cyhoedd.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Dywedodd Dr Julie Webb, o Brifysgol Bangor, “Mae cydweithio â’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol, o ddatblygu cysyniad cynnyrch a ystyriwyd yn ofalus i sicrhau bod prosesu’n cydymffurfio’n llawn â diogelwch bwyd a gofynion cyfreithiol.

“Byddem yn argymell unrhyw fusnes bwyd a diod yng ngogledd Cymru sydd angen unrhyw arweiniad i gysylltu â’r Ganolfan Technoleg Bwyd.”

SOC