Halen Môn

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi'r busnes drwy adolygu eu proses HACCP

CEFNDIR

Ar gyrion y Fenai yn Ynys Môn, dechreuodd busnes cynhyrchu bwyd arloesol yn 1997 pan adawodd yr entrepreneuriaid Alison Lea-Wilson a Nicki Hughes badell o ddŵr môr yn byrlymu ar yr Aga. Datgelwyd yr halen môr eithriadol sydd bellach yn cael ei adnabod fel Halen Môn ac ers hynny mae wedi ennill statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig.

Heddiw mae’r halen môr yn cael ei fwynhau ledled y byd gan gogyddion, pobl sy’n hoff o fwyd a hyd yn oed cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, a gyflwynodd anrhegion o siocledi wedi’u gwneud gyda Halen Môn i westeion yn y Tŷ Gwyn. Mae hefyd wedi’i weini yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, uwchgynadleddau gwleidyddol a phriodasau brenhinol ac mae’n gynhwysyn hanfodol yn siocled Green & Blacks a Piper’s Crisps.

Ynghyd â dros 100 o siopau delicatessen gorau’r DU, maen nhw hefyd yn cyflenwi Marks and Spencer, Waitrose a Harvey Nichols. Mae’r halen môr i’w gael mewn mwy na 22 o wledydd ledled y byd yn ogystal ag ar fyrddau rhai o fwytai gorau’r byd fel The Fat Duck.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi'r busnes drwy adolygu eu proses HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol).

Penodwyd technolegydd bwyd i Halen Môn a gynhaliodd adolygiad llawn o'u cynlluniau HACCP yn erbyn safon Rhifyn 9 BRCGS, a oedd yn cynnwys archwiliad ar y safle i wirio llif y broses.

Amlygwyd unrhyw fylchau wedyn yn eu cynlluniau HACCP a gwnaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd argymhellion a rhoi arweiniad ar sut i wella eu cynlluniau HACCP yn unol â gofynion safon BRCGS.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Dywedodd Alison Lea-Wilson MBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Halen Môn, “Roedden ni wrth ein bodd gyda’r cymorth a’r gefnogaeth a gawson ni gan y Ganolfan Technoleg Bwyd. Mae prosesau trwyadl iawn i’w cyflawni i gyflenwi’r delis, archfarchnadoedd a bwytai gorau nid yn unig yn y DU ond ledled y byd, felly mae’n hollbwysig bod yr ardystiad cywir gennyn ni.

“Mae cadw ein Achrediad BRCGS yn golygu y gall ein busnes barhau i dyfu a chwrdd ag anghenion ein cyflenwyr.”

HALEN MON