Sabor de Amor

Dros y blynyddoedd mae Sabor de Amor wedi cael cefnogaeth gan Brosiect HELIX drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni i ddatblygu cynnyrch a chanllawiau i'w helpu i gadw ei lefel SALSA.

CEFNDIR

Dechreuodd Beatriz Albo, sylfaenydd Sabor de Amor, ei gyrfa fel gwyddonydd ymchwil yn ei gwlad enedigol, Sbaen. Fodd bynnag, ysbrydolwyd hi gan angerdd ei mam a'i nain dros goginio i ddilyn ei brwdfrydedd dros fwyd ac felly aeth ati i greu detholiad o gynnyrch Sbaenaidd go iawn. Mae Beatriz wedi peffeithio'r ryseitiau a drosglwyddwyd iddi o fwyty ei theulu a arferai fod yn enwog yn Salamanca ac mae bellach yn creu ei chynnyrch yn Wrecsam gan ddefnyddio cynhwysion gwych a chytbwys.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Dros y blynyddoedd mae Sabor de Amor wedi cael cefnogaeth gan Brosiect HELIX drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni i ddatblygu cynnyrch a chanllawiau i'w helpu i gadw ei lefel SALSA.

Fel cwmni oedd eisiau cyflwyno cynnyrch i fanwerthwyr mawr, roedd yn hanfodol bod y cynnyrch yn blasu'n neilltuol, yn sefydlog a'u bod yn gallu cael eu cadw ar y silff am gyfnod hir. Gyda chymorth gan Brosiect HELIX, rhoddwyd cyfres o brofion i sawsiau Sabor de Amor, a arferai bara am 1-3 diwrnod yn unig unwaith iddyn nhw gael eu hagor, er mwyn cynyddu eu cyfnod silff. Roedd y profion yn cynnwys darogan modelu cyfnod silff (CIMSCEE ac Acid club ar gyfer cynnyrch oer) yn ogystal ag asesiadau dŵr a PH. Hefyd, defnyddiwyd systemau SUNTEST a DigiEye i gyflymu cyfnod silff er mwyn profi am amrywiaethau mewn lliw ac ansawdd.

Cynhaliwyd profion microbiolegol ar yr alioli a'r tapenâd (emwlsiwn yw'r alioli, felly treuliwyd mwy o amser ar y cynnyrch hwn). Rhoddwyd y cynnwys maethol ar y cynnyrch hefyd. Cynhaliwyd profion microbiolegol er mwyn dilysu cyfnod silff agored y Salsa Brava a'r saws paella. Cynhaliwyd asesiad synhwyraidd a monitro hexanal am surni.

Gall adalw cynnyrch fod yn gostus i gwmnïau, felly roedd y Ganolfan yn gefnogol os oedd angen atebion sydyn ar y cwmni – mewn lleoedd eraill, gall gymryd o leiaf ddeng diwrnod i gael canlyniadau, ond gall fod yn gyflym yn y Ganolfan.

Mae Sabor de Amor wedi cael cefnogaeth ac arweiniad parhaus ynglŷn â'u lefel SALSA a nawr, diolch i drosglwyddo gwybodaeth, mae ganddyn nhw ddealltwriaeth o ofynion diogelwch bwyd mewn uned cynhyrchu bwyd.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

O ganlyniad i'r profion a gynhaliwyd yn y Ganolfan, mae cyfnod silff y cynnyrch bellach wedi ymestyn i bedair wythnos. Mae'r cwmni wedi cynyddu eu gwerthiant o 60% a bellach yn gallu targedu manwerthwyr mwy fel Ocado a Bwydydd Castell Howell yn hyderus.

Eglurodd Beatriz Albo, sylfaenydd Sabor de Amor,

Ni allaf ganmol digon ar dîm y Ganolfan Technoleg Bwyd am eu proffesiynoldeb a'u heffeithlonrwydd ac am y gefnogaeth rydw i wedi ei derbyn drwy Brosiect HELIX. Nid yn unig bod y Ganolfan wedi sicrhau bod fy nghynnyrch yn ateb y gofyn ac wedi fy helpu i'w hyrwyddo ond rydw i hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gwerthiant. Mae arbenigedd y Ganolfan heb ei ail ac rydw i wastad wedi teimlo'n hyderus am y cyngor a'r arweiniad sy'n cael eu rhoi i mi. Gallwch chi fod yn sicr bod eich cynnyrch mewn dwylo da ac mae hynny'n galonogol pan fo rhywun wedi treulio llawer o amser ac ymdrech yn creu ryseitiau. Mae rhywun yn teimlo bod pob aelod o'r tîm yn edrych ar ei ôl.

www.sabordeamor.com