9 Meals From Anarchy

Dechreuodd 9 Meals From Anarchy, sydd wedi’i leoli yn Saltney, sy’n ffinio â Sir y Fflint a Swydd Gaer, drwy dyfu llysiau organig o ansawdd uchel a’u dosbarthu i gwsmeriaid a bwytai lleol.

Dechreuodd 9 Meals From Anarchy, sydd wedi’i leoli yn Saltney, sy’n ffinio â Sir y Fflint a Swydd Gaer, drwy dyfu llysiau organig o ansawdd uchel a’u dosbarthu i gwsmeriaid a bwytai lleol. Yna un diwrnod gofynnodd rhywun pam nad oedd y rhan fwyaf o'r stociau llysiau oedd ar gael yn cael eu gwneud o lysiau yn bennaf, a beth oedd ynddynt. Doedd neb yn gwybod, felly penderfynodd 9 Meals From Anarchy greu stoc gwell a mwy blasus. Arweiniodd hynny at y detholiad cyntaf o stociau 9 Meals From Anarchy a enillodd sêr Great Taste Award.

Fodd bynnag, yn fwy diweddar mae tîm 9 Meals wedi bod yn gweithio gyda Hugh Fearnley-Whittingstall a thîm River Cottage yn cynhyrchu detholiad hollol newydd o stociau blasus mewn jariau.

Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi’r busnes drwy eu cynghori a’u helpu i sefydlu eu cyfleuster newydd ar ystâd ddiwydiannol yn Saltney.

Mae 9 Meals hefyd wedi elwa o’r Cynllun Cysylltiedig drwy Brosiect Helix drwy recriwtio aelod cyswllt i weithio ar y safle gyda chymorth mentora gan dechnolegydd bwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd. Rôl yr aelod cyswllt fydd technegydd rheoli ansawdd a chynhyrchu.

Dywedodd Bethan Brierley, technolegydd bwyd yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, “Cefnogodd y Ganolfan Technoleg Bwyd Tom a’r tîm i ddylunio cynllun newydd y safle a chynorthwyo gyda phenderfyniadau’n ymwneud ag offer a phrosesau. Roedd y cyfleuster yn gynfas gwag felly roedd cyfle i wneud defnydd llawn o’r gofod yn y ffordd orau bosibl ar gyfer busnes sy’n tyfu fel 9 Meals.

“Unwaith y cytunwyd ar ddyluniad y safle, symudodd yr adeiladwyr i mewn. Mae'r safle bellach yn weithredol, yn cynhyrchu stociau llysiau organig ac yn datblygu detholiad newydd o sos coch.

“Gwnaethon ni hefyd gefnogi 9 Meals i gael cymeradwyaeth SALSA gan gynorthwyo i roi systemau a gweithdrefnau addas ar waith fel y gall y safle redeg yn esmwyth ac yn effeithlon.

“Mae’r safle hefyd wedi ennill achrediad organig Cymdeithas y Pridd ac wedi lansio detholiad o gynnyrch o dan frand ‘River Cottage’ Hugh Fearnley Whittingstall.”

Manteision y gefnogaeth

Dywedodd Tom Whitley, cyfarwyddwr 9 Meals From Anarchy, “Ein harwyddair yw bod bwyd yn danwydd ac felly dylen ni ei wneud mor faethlon a blasus â phosibl. I dîm 9 Meals mae hynny'n golygu cefnogi llysiau organig cynaliadwy a gwneud bwydydd sy’n seiliedig ar lysiau.

“Mae gweithio gyda’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn wych, maen nhw wedi ein helpu bob cam o’r ffordd wrth sefydlu ein huned newydd ar y parc diwydiannol ac wedi ein harwain drwy ein cymeradwyaeth SALSA, sy’n amhrisiadwy.

“Mae ennill achrediad organig Cymdeithas y Pridd ar ben hynny wedi bod yn wych ac mae gallu gweithio nawr gyda brandiau fel tîm River Cottage yn wych. Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud heb Brosiect HELIX a chefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd.

“Nawr bod ein gwefan wedi’i lansio, gallwn gynhyrchu bwyd sy’n cefnogi system fwyd decach a mwy cynaliadwy. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen i ni fwyta mwy o lysiau, ond ni ddylai fod yn faich, dylai fod yn bleser, a dylai'r daith honno ddechrau gyda stoc 9 Meals.”

https://www.ninemealsfromanarchy.co.uk/