Bwytai Dylan's

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn cefnogi Dylan's ers 2015 ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Roedd Dylan's eisiau mentro i farchnadoedd newydd drwy ddatblygu fersiynau wedi eu hoeri o'u sawsiau o'r safon a geir mewn bwyty.

CEFNDIR

Mae Bwytai Dylan's, yng ngogledd Cymru, yn frwd dros gynnyrch lleol a bwyd Cymreig.

Dechreuodd stori lwyddiannus Dylan's ar Ynys Môn pan agorodd David Evans a Robin Hodgson eu bwyty pizzas a bwyd môr ym Mhorthaethwy yn 2012 gyda thîm o 12 o staff cegin a blaen y tŷ. Roedd yn llwyddiant yn syth ac ar ôl hynny agorwyd bwytai yng Nghricieth yn 2015 ac yna yn Llandudno yn 2017.

Mae gan y busnes hefyd bencadlys a chegin gynhyrchu ganolog yn Llangefni ar Ynys Môn ble maen nhw'n prysur ehangu eu detholiad o gynnyrch bwyd sydd bellach yn cael ei werthu mewn siopau bwyd arbenigol ar hyd a lled y DU. Maen nhw'n cyflogi bron i 200 o staff ar hyn o bryd.

Gweledigaeth sylfaenol y cwmni yw helpu creu teimlad cryf o hunaniaeth a lleoliad yn y gogledd gan ddefnyddio bwyd, gyda ffocws cryf ar fwyd môr sydd wedi cael ei ddal yn lleol ac yn gynaliadwy ac sy'n dod yn syth gan bysgotwyr lleol.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn cefnogi Dylan's ers 2015 ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Roedd Dylan's eisiau mentro i farchnadoedd newydd drwy ddatblygu fersiynau wedi eu hoeri o'u sawsiau o'r safon a geir mewn bwyty.

Defnyddion nhw'r cyfleusterau datblygu i gael cefnogaeth ynghylch gwerthoedd maethol a chyngor ar HACCP; profi a dadansoddi cychwynnol ar gyfnodau silff; cyngor ar y ffordd orau o gadw'r sawsiau mewn jariau/poteli a chyfreithlondeb y labelau oedd eu hangen er mwyn gallu gwerthu'r cynnyrch.

Yn 2019, cafodd Dylan's hefyd eu mentora er mwyn cael achrediad SALSA.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Mae'r gefnogaeth a'r cyngor a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn hynod werthfawr i'r cwmni yn enwedig gan eu bod wedi gallu ehangu eu detholiad o sawsiau. Maen nhw hefyd wedi gallu ehangu'r busnes i mewn i fanwerthu, gan werthu eu sawsiau i fanwerthwyr a chyfanwerthwyr annibynnol a gweithio gyda Diverse Fine Foods, Springvale a Blas Ar Fwyd. Maen nhw hefyd ar restrau Marks & Spencer ac Ocado.

Dywedodd Amanda Rankenhohn, Bwyty Dylan's,

Rydyn ni wedi cael cefnogaeth anhygoel gan y Ganolfan Technoleg Bwyd ers y cychwyn cyntaf. Mae gwybodaeth a phrofiad tîm y Ganolfan wedi bod yn allweddol wrth roi arweiniad i'n cogyddion er mwyn sicrhau bod diogelwch y cynnyrch yn cael ei brofi a'i werthuso'n fanwl gywir, nid yn unig o safbwynt diogelwch bwyd ond hefyd er mwyn sicrhau uniondeb safonol y brand. Roedd y mentora a gawson ni er mwyn cael achrediad SALSA heb ei ail, ac rydyn ni'n dal i gael cefnogaeth barhaus ganddyn nhw. Maen nhw wedi cynghori a chynorthwyo bob cam o'r ffordd, gan ateb cwestiynau ac ymholiadau mawr a bach. Mae ganddyn nhw lwyth o wybodaeth am y diwydiant bwyd a gallwn ni ofyn am eu harbenigedd nhw unrhyw bryd.

www.dylansrestaurant.co.uk