Llaethdy Pentrefelin

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cynnig cymorth a chyngor ar gynhyrchiant Llaethdy Pentrefelin.

CEFNDIR

Mae Pentrefelin, fferm deuluol fechan yn Llandyrnog, Dyffryn Clwyd, yn llaethdy micro gwartheg a lloi sy’n godro llond llaw o wartheg brîd treftadaeth Red Poll. Mae’n frîd pwrpas deuol sy'n ffynnu ar system fewnbwn is, yn hapus i fod allan drwy'r flwyddyn ac yn rhoi swm da o laeth.

Mae gwerthu llaeth Llaethdy Pentrefelin wrth gât y fferm wedi chwyldroi’r busnes. Mae hyd yn oed enwau’r gwartheg ar y poteli, sy’n golygu bod olrhain a dim milltiroedd bwyd yn bwynt gwerthu amlwg.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOOFAN TECHNOLEG BWYD

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cynnig cymorth a chyngor ar gynhyrchiant Llaethdy Pentrefelin.

Gyda’u technolegydd bwyd eu hunain, aeth y ganolfan ati i weithio a helpu gyda HACCP Llaethdy Pentrefelin a gwaith papur cynhyrchu. Profwyd samplau o laeth y llaethdy hefyd ar gyfer dadansoddiad microbiolegol a phrofion ffosffadas.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Dywedodd Huw Foulkes o Laethdy Pentrefelin, “Rydyn ni’n llaethdy micro gwartheg a lloi yng ngogledd Cymru, yn godro buchod Red Poll pedigri unwaith y dydd, sy’n cael eu bwydo ar borfa. Gan ddefnyddio dull adfywiol o ffermio llaeth, rydyn ni’n blaenoriaethu lles anifeiliaid ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd dros gynnyrch ac elw llaeth.

“Roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn deall ein hanghenion a gwnaethon nhw ein helpu gyda’n gwaith papur cynhyrchu a chynnal yr holl brofion microbiolegol angenrheidiol i allu gwerthu ein llaeth yn syth i’r cyhoedd wrth gât y fferm. Mae’r cymorth wedi bod yn amhrisiadwy a byddwn yn argymell eu gwasanaethau i ffermydd eraill sydd eisiau gwerthu eu llaeth eu hunain yn uniongyrchol i gwsmeriaid.”

Llaethdy Pentrefelin Dairy whole milk