Parlwr Hufen Iâ Red Boat

Roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn gweithio gyda Red Boat ers nifer o flynyddoedd pan ofynnodd y cwmni hufen iâ iddyn nhw am gyngor yn 2019 ynglŷn ag ennill achrediad SALSA i'w parlwr hufen iâ yn Biwmaris.

CEFNDIR

Mae Parlwr Hufen Iâ Red Boat yn gwmni hufen iâ o Ynys Môn sydd wedi ennill sawl gwobr, ac mae eu ffocws ar greu hufen iâ gelato cartref traddodiadol.

Mae gan y perchnogion, Tony a Lyn Green, gaffis hufen iâ ar hyd a lled y gogledd ac Ynys Môn, ac maen nhw'n giamstars ar greu gelato a sorbedau o'r radd flaenaf. Maen nhw'n arbenigo mewn hufen iâ gelato Eidalaidd ar ôl i Tony gael hyfforddiant helaeth yn y grefft o wneud hufen iâ ym Mhrifysgol Gelato fyd-enwog Carpigiani yn yr Eidal.

Roedd Red Boat eisiau mwy o dwf a datblygiad busnes, felly aethant ati i ennill ardystiad SALSA. Arweiniodd hyn at y cwmni yn gofyn i'r Ganolfan Technoleg Bwyd am gefnogaeth wedi ei hariannu drwy Brosiect HELIX.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn gweithio gyda Red Boat ers nifer o flynyddoedd pan ofynnodd y cwmni hufen iâ iddyn nhw am gyngor yn 2019 ynglŷn ag ennill achrediad SALSA i'w parlwr hufen iâ yn Biwmaris.

Aeth technegydd bwyd o'r Ganolfan Technoleg Bwyd i ymweld â'r safle a dod i'r casgliad y byddai cael achrediad ar gyfer yr adeilad yn anodd. O ganlyniad i hyn, penderfynodd Red Boat ystyried unedau a fyddai'n fwy addas i gynhyrchu rhagor o hufen iâ.

Ar ôl dod o hyd i uned yn Llangefni, helpodd y Ganolfan Technoleg Bwyd drwy greu cynllun i'w datblygu i mewn i ganolfan cynhyrchu hufen iâ. Cynghoron nhw ar y cynllun, yr offer a'r cyfleusterau arbenigol angenrheidiol. Cynghorodd y Ganolfan Technoleg Bwyd hefyd ar yr holl ddogfennau a'r gofynion sydd eu hangen i gael cymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol.

Trefnodd y Ganolfan Technoleg Bwyd systemau rheoli o safon, gwaith papur cynhyrchu, cymeradwyo cyflenwyr, prosesau asesu risg a HACCP hefyd. Helpon nhw hefyd gyda gwerth maethol, labelu a chynnal hyfforddiant staff ar ddiogelwch bwyd ac ymwybyddiaeth HACCP.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

O ganlyniad i'r gefnogaeth, llwyddodd Parlwr Hufen Iâ Red Boat ennill ardystiad SALSA ym mis Medi 2019.

Dywedodd Sue Lane, Technegydd Bwyd,

Cynhaliais ddadansoddiad o fylchau eu safle yn Biwmaris yn 2018, ac ar ôl yr adborth a roddwyd, penderfynodd Red Boat y byddai'n briodol adleoli eu safle cynhyrchu hufen iâ i adeilad mwy pwrpasol a allai gynorthwyo'r galw cynyddol am eu cynnyrch safonol mewn cyfleuster o'r radd flaenaf sy'n hyrwyddo diogelwch bwyd o'r safon uchaf. Drwy cael ardystiad SALSA maen nhw wedi gallu cwrdd â'r gofynion cyfanwerthol, ac maen nhw bellach yn cyflenwi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a nifer o leoliadau eraill. Gyda help y Ganolfan Technoleg Bwyd a nawdd gan Brosiect HELIX, maen nhw wedi gallu ehangu a chreu canolfan i gynhyrchu hufen iâ.

Dywedodd Tony Green, perchennog a sylfaenydd Parlwr Hufen Iâ Red Boat,

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd ers blynyddoedd, felly pan roedden ni eisiau ehangu ein busnes a chael achrediad SALSA, nhw oedd ein man cychwyn. Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn gefnogol, calonogol a rhagweithiol iawn. Caffi hufen iâ bychan ar y stryd fawr oedden ni ond gyda eu help nhw mae gennyn ni bellach ganolfan gynhyrchu bwrpasol ac rydyn ni wedi gallu ehangu. Bellach mae gennyn ni'r gofod a'r offer angenrheidiol i dyfu ein busnes, ac rydyn ni wedi cyflogi Rheolwr Gwerthu a Marchnata. Fydden ni fyth wedi cyrraedd y nod hebddyn nhw, a nawdd gan Brosiect HELIX. Roedden nhw'n graig ac yn dîm gwych.

www.redboatgelato.co.uk