Mountain Produce

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi Mountain Produce i ymestyn eu hoes silff bresennol o’u cynnyrch deiliog, a gwerthu i’r farchnad adwerthu yn ystod y pandemig COVID.

Mountain Produce

Wedi’i sefydlu yn 2013, mae Mountain Produce yn tyfu cynnyrch salad deiliog, sy’n cynnwys letys, egin bys a berwr y dŵr, gan werthu i dafarndai a bwytai lleol ac ehangu eu cynhyrchiant bob blwyddyn i ateb y galw. Yn fwy diweddar maent wedi symud i mewn i gynhyrchu olew blodyn yr haul ac olew had rêp wedi'u gwasgu'n oer wrth iddynt barhau i ehangu eu harlwy i gwsmeriaid.

Ar fferm ar Fynydd y Mwynglawdd ger Wrecsam, 1200 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben chwarel ac yn agos at fwyngloddiau plwm hynafol, nid oedd tyfu cynnyrch yn y pridd yn opsiwn. Felly ganwyd Mountain Produce gan ddefnyddio tyfu hydroponig - y wyddoniaeth o dyfu planhigion heb ddefnyddio pridd ond eu bwydo ar halwynau maetholion mwynol wedi'u hydoddi mewn dŵr mewn twneli polythen. Mae tyfu eu cynnyrch mewn twneli polythen hefyd yn ymestyn y tymor tyfu ac yn amddiffyn y cynnyrch rhag y tywydd a phlâu.

Mae'r systemau hydroponig a ddefnyddir yn ddull tyfu hynod effeithlon, gan ddefnyddio hyd at 90% yn llai o ddŵr na chnydau a dyfir yn y maes a chaniatáu i fwy o gynnyrch gael ei dyfu yn yr ardaloedd gan y gellir eu tyfu ar lefelau lluosog. Mae gan y cynnyrch yr holl faetholion sydd eu hangen arno ac nid yw byth yn rhedeg allan o ddŵr pan fydd yn tyfu.

Y gefnogaeth a gafwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

Gyda chyllid gan Brosiect HELIX, roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu cefnogi Mountain Produce i ymestyn eu hoes silff bresennol o’u cynnyrch deiliog, a gwerthu i’r farchnad adwerthu yn ystod y pandemig COVID.

Mae Mountain Produce yn tyfu llawer o saladau gwyrdd, pys a phlanhigion bwytadwy ar gyfer bwytai lleol. Gan fod y mannau gwerthu hyn yn cau oherwydd cyfyngiadau COVID, roedd angen iddynt ddod o hyd i farchnad newydd ar gyfer eu cynnyrch oes silff byr.

Gyda chefnogaeth y ganolfan, profwyd detholiad o saladau yn ficrobiolegol er mwyn asesu eu hansawdd a dilysu eu diogelwch ar gyfer manwerthu.

Roedd angen help ar y cleient hefyd i bennu'r cynnwys maethol ar ddau gynnyrch newydd sy'n cael eu tyfu a'u gweithgynhyrchu ar eu heiddo. Roedd y rhain yn cynnwys olew blodyn yr haul ac olew had rêp wedi'u gwasgu'n oer.

Cynhaliwyd rhywfaint o brofion microbiolegol i ddilysu ansawdd y cynhwysion a glendid y prosesu; gwnaed hyn cyn asesiadau mewnol trwy feddalwedd maeth y ganolfan. Felly roedd y ganolfan yn gallu cynhyrchu dadansoddiad maethol llawn ar gyfer y ddau olew at ddibenion labelu.

Manteision y gefnogaeth

Dywedodd Chris Boyle, perchennog a sylfaenydd Mountain Produce, “Rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu cynnyrch salad deiliog ers blynyddoedd lawer ac roedd mynd i’r Ganolfan Technoleg Bwyd am gymorth yn ystod pandemig COVID-19 yn achubiaeth i’n busnes. Roedd yn golygu y gallen ni ddilysu oes silff ein cynnyrch ac ehangu ein sylfaen cleientiaid.

“Yn 2021 roedden ni wedyn yn chwilio am rywbeth arall y gallen ni ei gynhyrchu i’w werthu ochr yn ochr â’n cynnyrch salad. Ar ôl llawer o syniadau gwahanol gwnaethon ni setlo ar olew had rêp ac olew blodyn haul Cymreig wedi'u gwasgu'n oer. Gwnaethon ni ychydig o samplau ac roedd yn llwyddiant ond roedd angen cymorth arnon ni i ddilysu ansawdd a phecynnu.

“Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn wych. Mae’r tîm o dechnolegwyr bwyd wedi ein cefnogi drwy gydol y broses ac mae wastad yn wych cael rhywun ar ben arall y ffôn i fynd â chi drwy’r holl weithdrefnau gwahanol.”

https://www.mountainproduce.co.uk/

Olew blodyn yr haul Mountain Produce