Ystafelloedd Dadansoddi Synhwyraidd a Pharatoi
Ystafell Dadansoddi Synhwyraidd ac Ystafell Paratoi
Yn ddiweddar, ychwanegwyd Ystafell Ddadansoddi Synhwyraidd gyda Bwyd i’r ganolfan. Bydd yr ystafell hon yn galluogi busnesau i gynnal gwaith dadansoddi synhwyraidd ar gynhyrchion newydd, gwneud addasiadau i ryseitiau neu gynnal sesiynau i gymharu eu cynnyrch hwy gyda’r cynhyrchion eraill sydd ar y farchnad. Ceir sawl bwth unigol yn yr ystafell a fydd yn galluogi technolegwyr bwyd a chleientiaid i gael barn defnyddwyr ar eu cynhyrchion a chyfle i’w haddasu yn y fan a'r lle. Defnyddir meddalwedd arbenigol, sy'n cydymffurfio â rheolau GDPR, i greu holiaduron penodol ar gyfer y defnyddwyr. Mae'r feddalwedd yn cyd-fynd â’r hyn a ddefnyddir mewn sefydliadau ymchwil eraill yng Nghymru a ledled y byd i gymharu data mewn modd diogel.
Ystafell Arloesi
Dyluniwyd yr ystafell hon, gyda'r gegin baratoi, i gynnig gofod addas i arddangos cynnyrch newydd i fân-werthwyr posib. Gall y cleient arddangos ei gynnyrch yn ein 'ffenestr siop' a chynnig samplau wedi'u paratoi'n ffres i brynwyr eu blasu. Mae'r ystafell yn cynnwys gofod ychwanegol i grwpiau ffocws penodol allu trafod cysyniadau'r cynnyrch yn ogystal â dysgu mwy am y categori a chynnal gwaith dadansoddi synhwyraidd.