Prosiect HELIX - Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi

Mae Prosiect HELIX yn fenter strategol Cymru gyfan sy’n cael ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae cwmnïau bwyd a diod cymwys yn gallu manteisio ar ystod o gefnogaeth tymor byr, tymor canolig a hirdymor sy’n ceisio cynyddu cynhyrchiant a lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi.

Gall cwmnïau gael mynediad at gyfleusterau ein Canolfan Technoleg Bwyd ac arbenigedd ein tim cymorth technegol a busnes drwy Prosiect HELIX.

Cysylltwch gyda’r ganolfan i drafod sut fuasai ni’n gallu cefnogi eich busnes chi.

Ffôn – 01248 383345
E-bost – ftconline@gllm.ac.uk