Achredu (SALSA a BRC)

Mae dyfarniadau achredu'n galluogi cwmnïau i gael eu cydnabod am eu safonau uchel gan arwain at gynnydd mewn cyfleoedd i werthu i fanwerthwyr mawr. Mae staff y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi cael eu hyfforddi i fentora eich cwmni i lwyddo un ai yng nghynllun achredu SALSA neu gynllun achredu BRC. Yn ogystal ag arwain at fusnes ychwanegol bydd cwmnïau'n gallu manteisio ar allu cynnal system ddiogelwch bwyd effeithlon sy'n cael ei dogfennu. Bydd ganddynt hefyd sicrwydd ychwanegol bod eu cynnyrch yn cyrraedd safon ddiogel.

SALSA

Ystyr SALSA yw 'Safe and Local Supplier Approval'. Caiff ei gydnabod fel prif gynllun ardystio diogelwch bwyd y DU ar gyfer cwmnïau bach sy'n cynhyrchu bwyd a diod, sef cwmnïau sydd fel arfer yn cyflogi rhwng 1 a 50 o weithwyr llawn amser. Fe'i derbynnir yn gyffredinol gan fanwerthwyr a darparwyr gwasanaethau bwyd sy'n golygu ei fod yn gynllun a berchir gan gyflenwyr a phrynwyr fel ei gilydd.

I ddechrau'r broses ewch i wefan SALSA (www.salsafood.co.uk) i lawrlwytho copi o'r archwiliad safonol. Cysylltwch â mentoriaid SALSA yn y Ganolfan Technoleg bwyd i drefnu iddynt ymweld â'r safle. Yn ystod yr ymweliad cyntaf cynhelir dadansoddiad o'r bylchau i bennu pa gamau sydd angen eu cymryd i fodloni'r gofynion. Unwaith y byddwch wedi cofrestru mae'r cynllun Salsa yn cynnig mynediad i ystod o ddeunyddiau hyfforddi i'ch cynorthwyo i baratoi ar gyfer yr archwiliad.

Y pedwar maes a gwmpesir gan yr archwiliad yw: Rheolyddion Hanfodol; Systemau Rheoli a HACCP; Dogfennau; Adeilad. Bydd y gofynion sylfaenol eisoes yn cael eu gweithredu gan gynhyrchwyr bwyd ac yn aml yr hyn sydd angen yw cofnodi arferion presennol a rhoi polisïau ar waith.

Bydd archwilydd SALSA yn ymweld yn flynyddol ar ddyddiad a drefnwyd i archwilio'r cwmni yn erbyn y safonau. Os oes angen cymryd unrhyw gamau cywirol gellir cyflwyno'r rhain o fewn 28 diwrnod. Gall cwmnïau a ardystiwyd ddefnyddio logo SALSA a chânt eu rhestru mewn cofrestr o gwmnïau a gymeradwyir gan SALSA.

BRC

BRC (British Retail Consortium Global Standard for Food Safety) yw'r cam nesaf o SALSA i gwmnïau bwyd mwy. Mae ganddo 23,000 o gyflenwyr ardystiedig mewn 123 o wledydd, caiff ei gydnabod ledled y byd ac yn aml mae'n ofyniad sylfaenol gan y prif fanwerthwyr.

Ewch i'r wefan www.brcglobalstandards.com i gofrestru a lawrlwytho'r archwiliad safonol. Mae staff y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi cael eu hyfforddi i fentora eich cwmni drwy'r gofynion a gweithio gyda'ch staff i ennill ardystiad. I weithredu'r cynllun mae angen cryn amser ac ymroddiad. Y saith maes a gwmpesir gan yr archwiliad yw: Ymroddiad Uwch Reolwyr; Y Cynllun Diogelwch Bwyd - HACCP; Diogelwch Bwyd a Systemau Rheoli Ansawdd; Safonau Safle; Rheoli Cynhyrchu; Rheolaeth ar Broses; Personél.

Caiff canlyniadau eu graddio o AA i D ar gyfer archwiliadau a gyhoeddir a AA+ a D+ ar gyfer archwiliadau nad ydynt yn cael eu cyhoeddi. Mae'r radd yn dibynnu ar y nifer a'r mathau o ddiffyg cydymffurfio a nodir. Rhaid wrth archwiliadau pellach bob 12 mis, neu bob 6 mis os yw'r radd yn C neu is. Gall cwmnïau llwyddiannus ddefnyddio logo BRC ac maent hefyd yn derbyn tystysgrif ac yn cael eu rhestru yn y Cyfeirlyfr BRC.