Dyfarniad Highfield Lefel 3 HACCP ym maes Gweithgynhyrchu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 diwrnod

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Highfield Lefel 3 HACCP ym maes Gweithgynhyrchu

Cyrsiau Byr

Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Dydd Mawrth, 18/06/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP)

Mae HACCP yn ddull systematig, ataliol i ddiogelwch bwyd a pheryglon alergenig, cemegol a biolegol mewn prosesau cynhyrchu a all achosi'r cynnyrch terfynol i fod yn beryglus. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithredu mesurau i leihau'r risgiau hyn i lefel diogel. Mae'n hanfodol bod yr holl sefydliadau sector bwyd yn gweithredu system rheoli diogelwch bwyd wedi selio ar egwyddorion codecs HACCP. Mae cymwysterau HACCP Highfield yn addas i unigolion sy'n trin bwyd a goruchwylwyr sy'n gweithio gyda'r rhan fwyaf o weithrediadau bwyd.

Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at

  • Unigolion (perchnogion, rheolwyr, goruchwylwyr) sy'n gyfrifol am helpu gyda datblygiad a chynnal a chadw systemau HACCP
  • Dysgwyr sydd eisoes yn gweithio yn y maes gweithgynhyrchu
  • Unigolion gyda gwybodaeth dda o beryglon a rheoliadau diogelwch bwyd.
  • Unigolion sy'n berchen ar/rheoli busnes bwyd bach i gynnig y wybodaeth greiddiol iddynt er mwyn gweithredu system rheoli diogelwch bwyd pwrpasol wedi'i selio ar egwyddorion HACCP.

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ennill y Dyfarniadau canlynol ( Dylai ymgeiswyr nodi pa ddyfarniad y dymunant ei gwblhau wrth wneud cais am y cwrs ) :

Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn HACCP Gweithgynhyrchu Bwyd

Pynciau

  • Pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a seiliwyd ar HACCP,
  • Y prosesau rhagarweiniol sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau a seiliwyd ar HACCP
  • Sut i ddatblygu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a seiliwyd ar HACCP ,
  • Sut i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a seiliwyd ar HACCP ar waith,
  • Sut i werthuso systemau a seiliwyd ar HACCP.
  • Prosesau cychwynnol systemau rheoli diogelwch bwyd a seiliwyd ar HACCP
  • Pwysigrwydd adnabod pwyntiau rheoli critigol a'r gweithrediadau gwirio pan mae monitro yn dangos colli rheolaeth ac CCP

Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau.

£170

Dyddiadau Cwrs

Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
18/06/202409:00 Dydd Mawrth, Dydd Iau14.001 £1702 / 6FTC00054

Gofynion mynediad

Dyfarniad Lefel 2 mewn HACCP

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu yn y dosbarth.

Asesiad

Arholiad amlddewis.

Dilyniant

Dyfarniad Lefel 4 mewn Diogelwch Bwyd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cynhyrchu Bwyd

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni