Hilltop Honey

Ers diwedd 2018, mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi darparu cyfoeth o gefnogaeth gyda phrofion cynnyrch a hyfforddiant.

CEFNDIR

Sefydlwyd Hilltop Honey yn 2011 pan ddechreuodd Scott Davies, y prif wenynwr a bellach y Rheolwr Gyfarwyddwr, gadw gwenyn yn ei amser hamdden yng ngardd ei rieni. Ers hynny mae'r cwmni wedi symud i uned 14,000 troedfedd sgwâr yn y Drenewydd, Powys, ac yn cyflenwi rhai o brif archfarchnadoedd y DU yn ogystal â channoedd o siopau fferm a delis annibynnol.

Mae amrywiaeth Hilltop Honey o nwyddau wedi tyfu dros y blynyddoedd ac mae bellach yn cynnig detholiad cyffrous o fêl Prydeinig, Arbenigol, Masnach Deg a Manuka, yn ogystal â phaill gwenyn a diliau mêl wedi eu torri. Mae'r nwyddau ar gael mewn jariau gwydr y gellir eu hailddefnyddio a photeli gwasgu sy'n 100% ailgylchadwy.

Gwerthoedd y cwmni yw darparu'r mêl o'r safon uchaf i'w cwsmeriaid; addysgu eu cwsmeriaid ynghylch manteision y mêl; cefnogi'r wenynen fêl a bod yn frand addysgiadol a thryloyw y gellir ymddiried ynddo. Mae miloedd o gychod gwenyn bellach yn cyflenwi'r cwmni, ac mae gwenynwyr y rheiny hefyd yn rhannu gwerthoedd Hilltop Honey.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Ers diwedd 2018, mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi darparu cyfoeth o gefnogaeth gyda phrofion cynnyrch a hyfforddiant.

Fel rhan o Brosiect HELIX yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, cynhaliwyd treialon Datblygu Cynnyrch Newydd er mwyn ehangu detholiad Hilltop Honey o nwyddau. Galluogodd hyn Hilltop Honey i awgrymu nifer o nwyddau wrth fanwerthwyr, sicrhau eu lle ar y silff, a dangos bod y cwmni wastad yn datblygu cynnyrch newydd ar gyfer y cyhoedd.

Roedd y treialon Datblygu Cynnyrch Newydd yn cynnwys dadansoddi a throsglwyddo gwybodaeth ynghylch profi gweithgarwch dŵr ac asidedd naturiol ar amrywiol gyfuniadau mêl y cwmni er mwyn dilysu sefydlogrwydd y cynnyrch ar y silff. Hefyd, cynhaliwyd profion microbiolegol yn y Ganolfan, a darparwyd gwybodaeth faethol.

Mae diogelwch y cynnyrch yn hanfodol, felly mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn sicrhau bod gan y cwmnïau ddealltwriaeth o'r prif asesiadau, fel gweithgarwch dŵr, a'u goblygiadau i'r cyfnod silff.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Gyda chymorth y Ganolfan Technoleg Bwyd, enillodd Hilltop Honey achrediad BRC gradd 'A' ym mis Ionawr 2019, a gyda eu cefnogaeth barhaus ac ymweliadau â'r safle, gall y cwmni nawr gynnal a monitro eu sgôr ac ystyried unrhyw addasiadau angenrheidiol yn ystod y broses ailarchwilio.

Bu datblygiadau yn sgiliau ac arbenigedd tîm y cwmni hefyd. Cafodd aelod o staff oedd yn gweithio yn y warws gynnig i gael hyfforddiant drwy Brosiect HELIX ac mae bellach yn rheolwr technegol ar y cwmni.

Dywedodd Scott Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hilltop Honey,

Mae cefnogaeth gan Brosiect HELIX wedi ein galluogi ni i gyrchu ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth, hyfforddiant a chymorth yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni. Nid yn unig bod y Ganolfan wedi ein helpu ni i sicrhau bod ein cynnyrch yn ddiogel ac yn werthadwy, ond rydyn ni hefyd wedi ennill sgiliau technegol o fewn ein tîm gyda hyfforddiant Prosiect HELIX. Mae'r Ganolfan yn cysylltu â ni'n rheolaidd, boed ar y ffôn neu ar e-bost, sy'n galonogol iawn. Mae'r holl brofiad wedi bod yn allweddol inni wrth ehangu ein cynnyrch a thyfu ein busnes.

www.hilltop-honey.com