Arloesi Bwyd Cymru

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn rhan o'r brand partneriaeth Arloesi Bwyd Cymru.

Efallai eich bod yn rhedeg cwmni bwyd yng Nghymru, yn gweithio i gynhyrchydd bwyd rhyngwladol, neu’n cymryd eich camau petrus cyntaf at gychwyn microfusnes bwyd: os felly, Arloesi Bwyd Cymru yw’r lle cyntaf i droi am gefnogaeth, cyngor a syniadau creadigol i’ch helpu i gychwyn, ehangu a dod o hyd i atebion i gwestiynau technegol gweithredol dyrys.

Mae’r diwydiant bwyd bellach yn faes gwaith cynyddol gymhleth: gyda chystadleuaeth byd-eang, mwy o ffocws ar brisiau, dulliau caffael cymhleth a chraffu cynyddol ar faterion moesegol ac amgylcheddol, mae datblygu busnes bwyd yn her go iawn. Does dim syndod felly bod cymaint o gwmnïau’n methu oherwydd diffyg arbenigedd neu adnoddau mewn meysydd penodol.

Bryd hynny bydd Arloesi Bwyd Cymru yno i’ch helpu: mae ein tîm o ymgynghorwyr profiadol mewn Canolfannau Bwyd ar draws Cymru wrth law i gefnogi’r diwydiant bwyd trwy ddarparu cyngor a chefnogaeth, cymorth technegol, syniadau arloesol ac arweiniad ar gymhlethdodau rheoleiddiol a deddfwriaethol.

Mae tîm Arloesi Bwyd Cymru yn cynnwys arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Maent ar gael i helpu cleientiaid i weld eu ffordd trwy amrywiaeth gymhleth o ddisgyblaethau bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr amgylchedd, datblygu cynhyrchion newydd, cynllunio ffatrïoedd a gweithfannau, sicrhau ansawdd, hylendid, diogelwch bwyd, marchnata neu effeithlonrwydd.

Mae degawdau o brofiad gan Arloesi Bwyd Cymru. Rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau bwyd i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd. Ymunwch â’r llu o fusnesau bwyd sydd eisoes wedi elwa o gymorth a chyngor ein tîm: cysylltwch â ni nawr i drafod ffyrdd i lwyddo’n well eto yn y diwydiant bwyd.

Am fwy o wybodaeth ewch i foodinnovation.wales.

Ewch i gyfeirlyfr bwyd a diod Cymru.