Dyfarniad Highfield Lefel 4 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Fanwerthu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 diwrnod (dim yn cynnwys yr arholiad)

    Cost: £285

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Highfield Lefel 4 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Fanwerthu

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r gyfraith yn nodi bod angen i'r rhai sy'n trin bwyd gael eu hyfforddi yn unol â'u gweithgareddau trin bwyd yn y gwaith. Os bydd gweithiwr yn cyflawni cymhwyster diogelwch bwyd Highfield, sy'n addas ar gyfer y gwaith maent yn eu gwneud, bydd yn helpu'r gweithredwyr busnes bwyd i brofi eu bod wedi dangos diwydrwydd ac felly'n ufudd yng ngolwg y gyfraith. Gall amgylcheddau cyffredin gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, mannau adwerthu, ffatrïoedd, arlwyo i gontract, bwytai prydau cyflym , ysbytai, cartrefi preswyl a nyrsio, ysgolion, carchardai a'r lluoedd arfog.

Diogelwch Bwyd Lefel 4 - sicrhau bod rheolwyr yn ymwybodol o'r gweithdrefnau a'r safonau angenrheidiol i sicrhau bod bwyd yn cael ei weini o hyd a bod diwydrwydd yn cael ei gynnal.

Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at

  • unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y maes gweithgynhyrchu ac mewn amgylchedd arlwyo bwyd neu ddiod
  • Rheiny sy'n paratoi i weithio yn y diwydiant,
  • Rheiny y mae gofyn iddynt gael ychydig o gyfrifoldeb dros ddiogelwch bwyd yn eu swydd ac yn debygol o gael cyfrifoldebau rheoli dros dîm gweithredol.

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ennill y Dyfarniadau canlynol ( Dylai ymgeiswyr nodi pa ddyfarniad y dymunant ei gwblhau wrth wneud cais am y cwrs ) :

Dyfarniad Lefel 4 Highfield mewn Rheoli Diogelwch Bwyd ym maes Gweithgynhyrchu Bwyd

Dyfarniad Lefel 4 Highfield mewn Rheoli Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo

Pynciau

  • Sut y gall gweithredwyr busnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda deddfau diogelwch bwyd,
  • Gofynion gweithredol angenrheidiol i sicrhau diogelwch bwyd,
  • Sut i sefydlu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd,
  • Y rheoliadau angenrheidiol ar gyfer diogelwch bwyd
  • Sut i gynnal gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  • Arferion hylendid da

Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau.


Gofynion mynediad

Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo neu gymhwyster cyfwerth.

Cyflwyniad

  • Sesiynau a addysgir
  • Gwaith grŵp

Asesiad

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei asesu gan arholiad aml-ddewis ac arholiad ysgrifenedig.

Dilyniant

Ar gyfer rhagor o lwybrau dysgu dilynol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r Ganolfan Technoleg Bwyd..

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Cynhyrchu Bwyd

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni