Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 awyr: 09:30 i 16:00 (gan gynnwys 2 awr o ddarlleniad cyn-hyfforddiant)

Gwnewch gais
×

Ymwybyddiaeth o HACCP

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP)

OHERWYDD COFID-19 RYDYM YN GWIETHIO I DDARPARU EIN CYRSIAU AR-LEIN

System o reoli diogelwch bwyd yw HACCP sy'n cynorthwyo busnesau i adnabod, asesu a rheoli peryglon sylweddol i ddiogelwch bwyd. Mae'r broses yn systematig ac yn ymwneud â gwerthuso peryglon. Mae HACCP yn ofyniad cyfreithlon ac yn berthnasol i holl sefydliadau'r sector bwyd i raddau amrywiol.

Mae'r cwrs un dydd hwn wedi ei anelu at bobl sy'n trin ac arolygu bwyd ac

  • Yn gweithio mewn, neu'n paratoi i weithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd neu'r amgylchedd arlwyo.
  • Yn cymryd rhan mewn cynnal a chadw systemau HACCP mewn amgylchedd gweithgynhyrchu neu arlwyo.
  • Yn rhan o dîm HACCP neu'n gweithio i fod yn rhan o un.

Trosolwg

Mae'r cwrs Ymwybyddiaeth o HACCP wedi i selio ar raglen hyfforddi un diwrnod i sicrhau bod ymgeiswyr yn datblygu'r wybodaeth ofynnol a'r sgiliau ymarferol i weithredu cynllun HACCP yn y gweithle. Dylech nodi ei bod yn ofynnol i ymgeiswyr i ymgymryd â gwaith darllen cyn-cwrs o 2awr.

Pynciau

  • Egwyddorion HACCP
  • Rhagofynion ar gyfer HACCP a mesurau rheoli addas
  • Disgrifio'r cynnyrch
  • Diagramau llif
  • Adnabod peryglon bwyd a gwneud dadansoddiad o berygl
  • Dadansoddi Pwyntiau Rheoli Critigol (PRHC)
  • Sefydlu terfynau critigol
  • Sefydlu gweithdrefnau monitro
  • Penderfynu ar gamau cywiro
  • Dogfennau
  • Gweithdrefnau dilysu

Gofynion mynediad

I fedru cofrestru ar y enroll hwn rydych angen cydymffurfio â'r meini prawf Cymhwyster Cysylltwch â Paul Carroll Jones jones16p@gllm.ac.uk i wirio eich cymhwyster.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau.

Dyddiad d/b

Amser 9:30-16:00

Cost I'w gadarnahu y pen

Lleoliad d/b

Mae'r costau'n cael eu cwblhau 10 diwrnod cyn yr hyfforddiant. Byddaf yn anfon e-bost atoch yn ddiweddarach gydag opsiynau talu.

Nifer o ymgeiswyr: mwyafswm 15

Cysylltwch â Paul Carroll Jones i archebu lle ac ar gyfer gwybodaeth bellach: jones16p@gllm.ac.uk

+44 (0)1248 383 348 Estyniad 2037 (rhowch pan gyfarwyddir chi i wneud hynny)

Asesiad

Mae'n gwrs heb fod yn achrededig. Mae yna asesiad anffurfiol yn ystod y dydd.

Dilyniant

Cwrs HACCP achrededig. Er enghraifft, mae FTC yn cynnal Gwobr Lefel 2 Highfield yn HACCP mewn Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Adwerthu ar 30 Mai 2019.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cynhyrchu Bwyd

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni