Cyrsiau Cynhyrchu Bwyd Pwrpasol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Mae hyd y cyrsiau yn amrywio

Gwnewch gais
×

Cyrsiau Cynhyrchu Bwyd Pwrpasol

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae gweithgynhyrchu bwyd yr un mor amrywiol â'r bwydydd sydd ar y farchnad heddiw. Gallwn ladd, trin a phrosesu cig, pysgod a bwyd môr. Gallwn basteureiddio llaeth neu ei ddefnyddio i wneud caws neu iogwrt. Gallwn sychu, rewi neu roi ffrwyth neu lysiau i gadw. Caiff cnydau eu prosesu a'u troi'n flawd, bara, bisgedi neu'n rawnfwyd. Cynhyrchir siocled a melysion o goco a siwgr. Gallwn becynnu braster, olew a margarin ac ychwanegu blas atynt. Mae cynnal safon a diogelwch bwyd yn hanfodol yn y diwydiant Cynhyrchu Bwyd.

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn Llangefni yn un o dair Canolfan Technoleg Bwyd yng Nghymru. Dyma brif ddarparwr cyrsiau cynhyrchu bwyd arbenigol Gogledd Cymru. Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol i gwmnïau sy'n cynhyrchu bwyd a gallwn eu cynnig un ai yn ein cyfleusterau dynodedig yn y Ganolfan neu unrhyw leoliad yn y DU.

Rhai enghreifftiau o'r cyrsiau pwrpasol

  • Dechrau Busnes Bwyd neu Diod
  • Gweithdai Cigyddiaeth (Chwarthor blaen Cig Eidion, Chwarthor Ôl Cig Eidion, cig oen, porc),
  • Gweithgynhyrchu Cig (halltu cig a gwneud selsig)
  • Sgiliau Cigyddiaeth
  • Gwneud Caws
  • Archwiliadau Rheoli Ansawdd yn y Diwydiant Bwyd a Diod
  • Bragu Cwrw
  • Synhwyraidd
  • Diogelwch bwyd - cwrs gloywi
  • Hylendid ym maes Cynnyrch llaeth

Cysylltwch â CTB yn uniongyrchol i holi am le:

01248 383345

ftconline@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyrsiau.

Cyflwyniad

Mae pob cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau ac ymarfer.

Asesiad

Cynhelir yr asesiad yn ystod y cwrs gan y tiwtor, oni nodir yn wahanol.

Dilyniant

Ar gyfer dilyniant pellach, mae llwybrau'n cysylltu â'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn uniongyrchol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cynhyrchu Bwyd

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni