Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Patchwork Foods

Ar ôl cael nawdd gan Brosiect HELIX, gofynnodd Patchwork Foods i'r Ganolfan Dechnoleg Fwyd helpu ymestyn cyfnod cynnyrch eu pâté iau cyw iâr a rhoi profion i ddetholiad eang o'u cynnyrch - siytni, jam, relish a marmalêd.

CEFNDIR

Sefydlwyd Patchwork Foods yn 1982 gan Margaret Carter, cogydd cartref talentog, oedd heb gael hyfforddiant, wedi cael ysgariad a phan yn gofalu am ei thri plentyn.

Ar ôl gwario dim ond £9.00 o gostau cychwynnol ar y busnes, wedi ei gynilo o'i harian cadw tŷ, dechreuodd werthu ei pâtés cartref yn nhref gyfagos Llangollen.

Wrth i Margaret ddenu mwy a mwy o gwsmeriaid ac i'r busnes ddechrau ehangu'n llwyddiannus, symudodd y busnes o'i thŷ yn 1987 i ffatri bwrpasol yng nghanol Rhuthun a dechreuodd wneud jam, siytni a dips hefyd.

Er gwaethaf graddfa fasnachol heddiw, mae popeth yn dal i gael ei wneud â llaw mewn sypiau bach, heb liw, ychwanegion na chadwolion artiffisial.

Mae'r cwmni bellach wedi cael achrediad BRC, mae ganddyn nhw broses arloesi barhaus sydd ar gael i gogyddion ac maen nhw'n datblygu cynhyrchion wedi eu teilwra ar gyfer cwmnïau.

Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD

Ar ôl cael nawdd gan Brosiect HELIX, gofynnodd Patchwork Foods i'r Ganolfan Dechnoleg Fwyd helpu ymestyn cyfnod cynnyrch eu pâté iau cyw iâr a rhoi profion i ddetholiad eang o'u cynnyrch - siytni, jam, relish a marmalêd.

Cynhaliwyd micro brofion yn ogystal ag asesiadau ar safonau ansawdd, fel gwerthoedd perocsid ac asidau brasterog rhydd. Cynhaliodd y Technegydd Bwyd hefyd asesiadau gweledol ar gyfnod silff y pâté.

Fel rhan o'r cymorth hwn cafodd y cleient nifer o asesiadau cyfnod silff yn ogystal ag asesiadau gweithgarwch dŵr, halen, pH, cynnwys dŵr a halen yn ystod y cyfnod dyfrllyd.

MANTEISION Y GEFNOGAETH

Dywedodd Steven Prys Williams, Technegydd Bwyd,

Rydw i'n credu bod y cyflymder a'r ymateb a gafodd y cwsmer yn hanfodol ar gyfer y busnes yn ogystal â'r cyswllt uniongyrchol er mwyn trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn ag atebion a rheolaethau.

Dywedodd Rufus Carter, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Bwyd Traddodiadol Patchwork,

Roedd y cymorth gawson ni gan y Ganolfan Dechnoleg Fwyd yn amhrisiadwy. Roedd ein prosiect i ymestyn cyfnod cynnyrch ein pâté iau cyw iâr yn hanfodol er mwyn sicrhau cytundeb mawr gyda grŵp o dafarnfai sy'n cyflenwi dros 30 cwmni. Roedd yn rhaid inni roi sicrwydd i'n cwsmer yn sydyn er mwyn taro'r fargen. Roedd y wybodaeth a'r holl ddogfennau gawson ni gan y Ganolfan yn wych a heb eu cymorth nhw ni fydden ni wedi ennill y cytundeb.

www.patchworkfoods.com