Llaeth Medra
Sefydlwyd Llaeth Medra yn 2021 gan Huw Jones, ffermwr o Ynys Môn. Gyda chefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd, mae’r cwmni wedi symud o wneud diodydd llaeth defaid â blas i gynhyrchu caws. Mae’r halloumi newydd eisoes wedi ennill Aur yn Sioe Frenhinol Cymru ac Arian yng Ngwobrau Caws y Byd.
CEFNDIR
Sefydlwyd Llaeth Medra yn 2021 gan Huw Jones, ffermwr defaid o Ynys Môn. Cafodd Huw y syniad i odro defaid ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid Farming Connect i Ffrainc yn 2019.
Gyda chymorth y Ganolfan Technoleg Bwyd, datblygodd Huw ystod o ddiodydd llaeth defaid â blas, a werthwyd mewn siopau lleol, siopau fferm a delis. Dair blynedd yn ddiweddarach, dechreuodd edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio ei laeth drwy dreialu cynhyrchu caws halloumi.
Y GEFNOGAETH A GAFWYD GAN Y GANOLFAN TECHNOLEG BWYD
Gyda chyllid gan Y Raglen HELIX, cefnogodd y Ganolfan Technoleg Bwyd Huw gyda threialon gwneud caws yn ein neuadd laeth.
Treialwyd pedwar dull gwahanol o wneud halloumi, gan ddefnyddio gwahanol flasau a dulliau cynhyrchu i ddod o hyd i’r dull gorau ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fwy. Treialodd Huw gaws lactic meddal hefyd, gan fod hwn yn syml i’w wneud ac yn addas ar gyfer ychwanegu gwahanol flasau.
Roedd y treialon cyntaf yn llwyddiannus, ac mae Huw bellach wedi cwblhau’r broses ac yn barod i ddechrau cynhyrchu gan ddefnyddio ei laeth ei hun. Ar ôl gweithio gyda Rhaglen HELIX, cafodd ei halloumi lwyddiant cyflym, gan ennill aur yn y gystadleuaeth cynnyrch llaeth yn Sioe Frenhinol Cymru 2024 ac arian yng Ngwobrau Caws y Byd 2024-25.
MANTEISION Y GEFNOGAETH
Dywedodd Huw:
"Mae’r help rydw i wedi’i gael gan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn hanfodol. Mae Julia wedi parhau i’m cefnogi drwy gydol y broses o dreialu’r halloumi ac wedi rhoi gwybodaeth werthfawr i mi i helpu i wneud y fenter hon yn llwyddiant. Mae gallu defnyddio’r Neuadd Laeth ar y safle yn Llangefni wedi bod yn fuddiol iawn. Gyda’r offer a gwybodaeth Julia, mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi helpu’n fawr gyda’r fenter newydd hon. Ni allwn fod wedi gwneud hyn hebddynt."