> Cartref > Amdanom Ni >

Cyfleusterau CTB | Manylion Staff | Sut i Ddod o Hyd i'r Ganolfan | Manylion Cyswllt | Cysylltiadau

Gwobr Cigydda

Gwobr Cigydda

Aelod o staff Coleg Menai yn cael ei wobrwyo gan y Cwmni Anrhydeddus o Fwtsieriaid a’r Cyngor Hyfforddiant Cig (The Worshipful Company of Butchers and Meat Training Council). mwy

Dathlu Llwyddiant!

Dathlu Llwyddiant!

Fe dalodd Coleg Menai deyrnged i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog yn Galeri, Caernarfon. mwy

Staff

Dyma’r enwau’r staff sydd yn gweithio ar gyfer y Ganolfan Technoleg Bwyd.

Bethan Allen

Cyd-gysylltydd Cwrs a Chefnogaeth Gweinyddol

Meysydd o Arbenigedd: Cysylltiadau cyhoeddus, cydgysylltu criwiau hyfforddi, rheolaeth bas data a chyd-gysylltu gwybodaeth Canolfan

Ymunodd Beth gyda’r tîm yn Nhachwedd 2003, wedi gweithio yn flaenorol ar gyfer y Gwasanaeth Llys Sirol a busnesau lleol. Mae’n gyfrifol am gydgysylltu archebion cwrs, cofnodion ariannol, gweinyddiaeth deunydd marchnata a chyfathrebu cleient.

Mae fel arfer yn bwynt cyswllt cyntaf y Ganolfan Technoleg Bwyd ar gyfer myfyrwyr a phobl o’i diwydiant bwyd yn ceisio gwybodaeth ac arweiniad.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y staff perthnasol ar ein tudalennau cyswllt.

Ann Marie Flinn

Swyddog Ymchwil a Datblygiad

Meysydd o arbenigedd: hylendid bwyd, archwiliad adeiladau bwyd, iechyd a diogelwch. HACCP a Sicrhau Ansawdd.

Dylai cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd yn ceisio ardystiad ISDO 9001 siarad gydag Ann Marie, a fedr esbonio’r broses a chynorthwyo gyda’r gwaith manwl o gyflawni’r wobr.

Er mwyn bod yn gystadleuol rhaid i’r cynhyrchydd gyfarfod gyda gofynion y cwsmer. Mae achredu i safonau'r British Retail Consortium (BRC), safon Global Food standard neu gynlluniau EFSIS tebyg yn gyflym dod yn ofyniad sylfaenol gan ddiwydiant. Medr Ann Marie gynorthwyo eich busnes i ddatblygu eich systemau rheolaeth ansawdd er mwyn i chi fod yn barod ar gyfer yr achredu.

Yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, mae ganddi radd anrhydedd mewn Gwyddor Bwyd o Brifysgol Queens, Belfast, ac mae ganddi 13 mlynedd o brofiad o weithio ar gyfer diwydiant a’r sector iechyd cyhoeddus. Mae ei swyddogaethau wedi cynnwys dod yn rheolwr ansawdd a thechnolegydd offer trwm ar gyfer cwmnïau cynhyrchu cig ac fel Swyddog Diogelwch Bwyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam.

“Mae’r diwydiant bwyd yn fyd sydd yn newid yn barhaus a gall fod yn anodd i’r busnesau bach i gadw i fyny gyda’r newidiadau. Anelwn at gefnogi’r diwydiant bwyd gyda’r datblygiadau mwyaf diweddar mewn deddfwriaeth, datblygu system ansawdd a datblygu cynnyrch newydd. Mae fy ngwaith yn y Ganolfan Bwyd yn sicr yn amrywiol a diddorol wrth gyfarfod gyda’r her mae ein cleientiaid yn eu cynnig i ni.”

Ben Lee

Technegydd

Meysydd arbenigedd: Datblygu cynnyrch newydd, cynnal cyfleusterau a gwasanaethau prosesu bwyd, monitro

gweithgareddau prosesu bwyd ar gyfer yr awdurdodau rheolaethol/ cydymffurfiad, prynu cyffredinol a chefnogaeth a hyfforddiant technegol.

Mae gan Benjamin Lee brofiad ymarferol o’r diwydiant bwyd - roedd yn bobydd am wyth mlynedd gan gynnwys cyfnod yn Tesco ym Manceinion cyn ymuno â’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn 2000.

Dechreuodd fel pobydd rhan- amser gyda chwmni yn Llangefni tra o hyd yn yr ysgol yn astudio ar gyfer ei arholiadau.

Mae’n mwynhau'r gwaith yn y Ganolfan oherwydd yr her. “Mae’r cyfan yn newydd rydych bob amser yn cael eich herio wrth weithio gyda chynhyrchu, prosesu a pheiriannau newydd. Rwyf yn cyfarfod nifer o bobl newydd ac mae yna syniadau newydd o hyd.”

Ar wahân i’r gefnogi'r dysgu a’r ymchwil a gweithgareddau datblygu mae swyddogaeth Benjamin yn ymestyn i ffynonellau cynhwysion a phacio a phrofi cynnyrch bwyd.

Mae’n cyfuno ei waith yn y Ganolfan gydag astudiaeth -mae

yn ddiweddar wedi cwblhau CGC mewn cynhyrchu bwyd a diod a Lefel A mewn technoleg bwyd.

Y tu allan i’r diwydiant bwyd mae diddordebau Benjamin yn cynnwys pysgota môr.. Un o’r pysgod mwyaf cofiadwy a ddaliodd oedd tiwna anferth oddi ar Cyprus.

Uchafbwynt gyrfa hyd yn hyn” Cynnal dosbarthiadau sgiliau pob dydd yn y ganolfan, trosglwyddo gwybodaeth o bobl i fyfyrwyr eraill.”

Edwina Lloyd Jones

Swyddog Ymchwil a Datblygiad

Meysydd o Arbenigedd: Cynhyrchu cynnyrch llaeth, dadansoddi nodweddion ffisegol a chemegol bwydydd a datblygu cynnyrch newydd.

Ymunodd Edwina â’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Hydref 2005 fel Swyddog Technegol Labordy ac fe’i penodwyd wedyn yn Swyddog Ymchwil a Datblygiad yn Ebrill 2006. Ei phrif faes o arbenigedd yw datblygu a chynhyrchu cynnyrch llaeth. Mae gan Edwina hefyd ddiddordeb byw mewn Bwydydd Swyddogaethol ac mae wedi ymchwilio a datblygu ystod o gynnyrch swyddogaethol yn y sector cynnyrch llaeth a’r sector heb fod yn gynnyrch llaeth.

Drwy ei hymchwil bwyd swyddogaethol mae Edwina wedi gwneud cysylltiadau cryf gyda’r Adran Bwyd a Maeth ym Mhrifysgol John Moores University Lerpwl, y Functional Foods Forum wedi ei leoli yn Swydd Efrog a’r European Functional Food Network.

Cyn ymuno a’r Ganolfan Technoleg Bwyd enillodd Edwina radd Athro mewn Cemeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2004. Aeth yna yn ei blaen i gwblhau cymhwyster Tystysgrif ôl Radd mewn Addysg yn yr un sefydliad.

“Mae fy nghymwysterau gradd a dysgu wedi rhoi sail sefydlog i mi ar gyfer gweithio o fewn y diwydiant bwyd. Mae fy mhrofiadau dysgu wedi fy ngalluogi i diwtora myfyrwyr ar y cwrs HND Gwyddor a Technoleg Bwyd.“

“Rwyf wedi yn ychwanegu ymhellach at fy ngwybodaeth o’r diwydiant bwyd drwy hyfforddiant arbenigol mewn gwahanol feysydd megis datblygu cynnyrch newydd a labelu cynnyrch, yma yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, a hefyd yn Leatherhead Food International yn Surrey, a’r Campden & Chorleywood Food Research Association yn Swydd Gaerloyw.”

Paul Roberts

Gweithredwr Datblygu Busnes

Gwyndaf Williams

Swyddog Ymchwil a Datblygiad

Meysydd o Arbenigedd: Hyfforddiant sector Cig a datblygu cynnyrch

Mae gan Gwyndaf brofiad ymarferol o’r diwydiant bwyd. Mae wedi gweithio o fewn y diwydiant bwyd am bedair blynedd ar ddeg fel cigydd adwerthu a phedair mewn rheolaeth adwerthu.

Wedi ennill safonau buddugol mewn gwahanol gystadlaethau wedi eu rhedeg gan y comisiwn Cig a Da Byw a’r Cyngor Hyfforddiant Cig mae Gwyndaf yn deall yr angen am safonau gwaith uchel.

Dywedodd Gwyndaf : “Fy swyddogaeth o fewn y Ganolfan Technoleg Bwyd yw datblygu bas cleientiaid ar gyfer CGC Prosesu Cig , helpu i fwyafu’r defnydd o gyfleusterau’r ganolfan a hybu’r ganolfan yn gyffredinol.”

Uchafbwynt Gyrfaol hyd yn hyn: Sefydlu ac agor siop cigydd ei hun yn fuan ar ôl ei ben-blwydd yn 21ain.

Steven Prys Williams

Swyddog Technegol Labordy

Meysydd o Arbenigedd: Datblygu cynnyrch newydd, dadansoddi cynnyrch bwyd, Iechyd a Diogelwch o fewn y labordy, cefnogaeth ar gyfer yr holl dreialon datblygu cynnyrch ac arbrofion cwrs HNC, cynnal a chadw a chalibro’r offer labordy dadansoddol.

Wedi gweithio ar fferm cig eidion a defaid ar hyd ei fywyd, mae gan Steven gefndir amaethyddol cryf gyda nifer o flynyddoedd o brofiad ymarferol o fewn y diwydiant. Wedi cwblhau ei Lefel A treuliodd flwyddyn yn gweithio llawn amser ar y fferm cyn penderfynu dilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Er y bu amaethyddiaeth bob amser yn rhan gref o’i fywyd, bu ganddo ddiddordeb erioed mewn cemeg a gwyddoniaeth. Cafodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cemeg ac yna aeth ymlaen i gwblhau gradd ôl radd Meistr mewn Ymarfer Labordy Cemegol Modern.

Aeth Steven ymlaen i weithio i’r GIG o fewn yr Adran Wenwyneg lle’r enillodd rhagor o brofiad o weithio o fewn labordy modern, materion Iechyd a Diogelwch a gweithredu offeryniaeth ddadansoddol uwch.

Ym Mehefin 2006 ymunodd Steve gyda’r Ganolfan Technoleg Bwyd fel y Swyddog Technegol Labordy. Mae wedi sefydlu a datblygu’r labordy i gyfarfod gyda gofynion dadansoddol cleientiaid gyda methodolegau i gynnal ystod amrywiol o ddadansoddiadau ar gynnyrch bwyd.

Dywedodd Steven: “Mae gennym nawr y cyfleusterau a’r offer dadansoddol i berfformio ystod eang o brofion ar gynnyrch bwyd. Mae esiamplau yn cynnwys penderfynu ar lefelau o fraster a phrotein ar gyfer dadansoddiad maethegol, cynnal dadansoddiad ansawdd ar gynnyrch gwirioneddol a phenderfynu ar gynnwys alcohol a gymeradwywyd gan tollau tramor a chartref mewn diodydd”.

Uchafbwynt gyrfa hyd yn hyn: Cynllunio a datblygu cynnyrch arloesol swyddogaethol ar gyfer y diwydiant diodydd cynnyrch llaeth.

Brief details of all of our current team members can be found on our staff page.

 

You can also contact us by post at the following address:

The Food Technology Centre
Coleg Menai
LLangefni
LL77 7HY