> Cartref >

Amdanom Ni | Y a D | Addysg | Astudiaethau Achos | Digwyddiadau | Erthyglau | Map Safle | Cysylltu

Gwobr Cigydda

Gwobr Cigydda

Aelod o staff Coleg Menai yn cael ei wobrwyo gan y Cwmni Anrhydeddus o Fwtsieriaid a’r Cyngor Hyfforddiant Cig (The Worshipful Company of Butchers and Meat Training Council). mwy

Dathlu Llwyddiant!

Dathlu Llwyddiant!

Fe dalodd Coleg Menai deyrnged i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog yn Galeri, Caernarfon. mwy

Ymchwil a Datblygiad yn y GTB

Wedi ei sefydlu yn 1999, ein prif amcan fu i ddarparu rhaglenni hyfforddiant a gwasanaeth technegol i gyfarfod ag anghenion hir dymor y diwydiant bwyd Cymreig ac i gynorthwyo i ddatblygu cynhyrchu a phrosesu bwyd yn bennaf yng Ngogledd Cymru.

Bu ein gallu i ddarparu gwasanaethau megis ymchwil a datblygiad (Y ac D), trosglwyddo technoleg, cyngor technegol a hyfforddiant arbenigol wedi bod yn fantais fawr i fusnesau bwyd bychain ledled Cymru ac wedi darparu'r sector agri -fwyd sydd yno gyda sgiliau y gellir eu trosglwyddo i'r gweithlu gwledig er mwyn magu gweithgaredd entrepreneuraidd. Yn ei hanfod rydych wedi cyflwyno diwylliant arloesol i'r sector bwyd Cymreig.

Mae ein dalgylch yn ymestyn i lefydd fel Manceinion a Lerpwl ac ymhellach i ffwrdd i Firmingham a hyd yn oed cyn belled i'r gogledd â Cumbria . Rydym wedi ein harfogi yn llawn i gyfarfod gyda'r rhan fwyaf o'r materion technegol sydd yn wynebu cwmni yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gan ein cyfleuster yng nghampws Coleg Menai yn Llangefni nifer o adnoddau gan gynnwys neuaddau prosesu bwyd wedi ei neilltuo ar gyfer cig ffres, cynnyrch llaeth a bwydydd wedi eu paratoi. Mae ganddo hefyd wasanaeth labordy profi diogelwch bwyd wedi ei achredu gan UKAS, ystafell hyfforddi, cegin brawf datblygu cynnyrch, labordy dadansoddi ac ystafelloedd fideo-gynadledda. Cliciwch yma am restr fwy manwl o gyfarpar a chyfleusterau ar gael.

Mae'r canlynol yn rhai o'r gwasanaethau a gynigiwn gan yr anelwn at gyfarfod gydag anghenion hir dymor y diwydiant:

  • Gwasanaethau datblygu cynnyrch newydd yn darparu cyngor a chefnogaeth dechnegol i gwmnïau newydd ac sy'n bodoli eisoes ar gyfer cynnyrch bwyd newydd arloesol.
  • Prosiectau datblygu ar y cyd lle mae cwmnïau yn gofyn am y defnydd o gyfleusterau i balet cynnyrch newydd arloesol gyda chefnogaeth technolegwyr bwyd wedi eu cymhwyso.
  • Cymorth gyda chyfarfod ag anghenion y farchnad - bydd technolegwyr bwyd wedi cymhwyso yn darparu cyngor a chefnogaeth i gwmnïau lleol i'w galluogi i gyfarfod ag anghenion prif chwaraewyr marchnad.
  • Dadansoddi cynnyrch bwyd - bydd sefydlu cyfleuster labordy dadansoddi bwyd wedi ei achredu gan ISO yn galluogi nodweddu perfformiad ac asesiad cyfansoddiadol o fwyd bwyd wedi ei gario allan, gan gynorthwyo gyda dealltwriaeth well o dechnoleg a thechnegau prosesu.

Mae nifer o fentrau ar wahanol gyfnodau o ddatblygiad, wedi derbyn gwasanaeth o'r Ganolfan sydd wedi profi i fod yn hanfodol i'w datblygiad.

Y cynllun yw cynyddu ei medr, yn nhermau gwasanaethau ar gael ac i gynyddu ei gytundebau partneriaeth gydag ystod ehangach o asiantaethau a sefydliadau.

Steak

Yng Ngogledd Cymru rydych eisoes wedi gweithio mewn partneriaeth gyda thebyg Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a'r Uned Ymchwil Water Soluble Polymers yn Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru i gyflwyno prosiectau ymchwil.

Fe ffurfiwyd Rhwydwaith Bwyd Cymru mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, Ceredigion, a'r Ganolfan Bwyd yn Sefydliad Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn 2003 i gynnig ffordd fwy effeithiol o helpu cwmnïau bwyd ledled Cymru.

Aeth rhaglenni ymchwil hefyd yn eu blaenau gyda sefydliadau Gwyddelig gan gynnwys y Dublin Institute of Technology Fodd Product Development Centre, y Dairy Research Institute yn Cork a'r National Foods Centre yn Nulyn.

Er bod ein prif bwyslais ar brosiectau ymchwil a datblygiad bwyd, mae hyfforddiant ac addysg hefyd yn hanfodol bwysig. Mae'r ganolfan yn cynnig ystod eang o gyrsiau gan gynnwys y rhai yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol megis lefel A, HNCD, CGC ( lefelau 1 i 4). Mae yna hefyd nifer o gyrsiau CHI (Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd) yn cynnwys pynciau megis hylendid bwyd, asesiad risg a thrin gyda'r dwylo.

Yn ychwanegol cynigir ystod dda o gyrsiau arbenigol gan gynnwys, er enghraifft, gwneud caws sylfaenol, datblygu cynnyrch bwyd, sgiliau Bwtsieraeth a systemau rheoli ansawdd.