Gwobr Cigydda

Aelod o staff Coleg Menai yn cael ei wobrwyo gan y Cwmni Anrhydeddus o Fwtsieriaid a’r Cyngor Hyfforddiant Cig (The Worshipful Company of Butchers and Meat Training Council). mwy
Dathlu Llwyddiant!

Fe dalodd Coleg Menai deyrnged i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog yn Galeri, Caernarfon. mwy
Cyfleuster Profi Diogelwch Cynnyrch Bwyd
Mae MBCC yn brif gyflenwr gwasanaethau microbiolegol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Bu MBCC yn gweithredu ers 1988 o'i gyfleuster labordy ym Mangor, Gwynedd, ac mae wedi agor labordy microbiolegol amlbwrpas yn y ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni ar Ynys Môn. Mae gwasanaethau microbioleg yn cynnig olrheinadwyedd llawn ac achredu UKAS ar gyfer ystod eang ac ymestynnol o ddadansoddiad. Mae MBCC hefyd yn cynnig ystod o ddadansoddiad cemegol drwy is-gontractwr wedi achredu UKAS.
Mae MBCC yn medru archwilio ystod eang o samplau gan gynnwys:

- Samplau cynnyrch
- Swabiau amgylcheddol
- Samplau dwr
- Swabiau hylendid Staff
Mae hefyd yn gwneud astudiaethau bywyd silff ac yn cynghori ar effaith microbiolegol dylunio proses. Mae MBCC yn cyfranogi mewn Cynlluniau Asesu Ansawdd Allanol ar gyfer samplau d w r a bwyd ac mae ganddo ymrwymiad parhaus i Sicrhau Ansawdd.
Mae ei ystod o ficrobioleg wedi achredu gan UKAS yn cynnwys:
- Cyfrif hyfyw cyfanswm, erobig
- Cyfanswm Colifformau
- E.coli
- Staphylococcus aureus
- Salmonellae
- Listeria monocytogenes
- Enterococcus Spp.
- Pseudomonas aeruginosa
- SR Clostridia
- Enterobacteriaceae
- Clostridium perfringens
Yn ychwanegol mae MBCC yn medru dadansoddi ar gyfer y canlynol:
- Campylobacter spp.
- Buurm a mowldiau
- Bacillus Cereus
Dadandosddiadau eraill ar gael ar gais.
M.B.C.C. Ltd
Canolfan Technoleg Bwyd
Lon Penmynydd
Llangefni
Ynys Mon
Ffôn: 01248 751215
Ffacs: 01248 751216
Ebost: mbccmicro@btinternet.com











