Gwobr Cigydda

Aelod o staff Coleg Menai yn cael ei wobrwyo gan y Cwmni Anrhydeddus o Fwtsieriaid a’r Cyngor Hyfforddiant Cig (The Worshipful Company of Butchers and Meat Training Council). mwy
Dathlu Llwyddiant!

Fe dalodd Coleg Menai deyrnged i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog yn Galeri, Caernarfon. mwy
Gwasanaeth Cymeriadu'r Cynnyrch Bwyd
Yr ychwanegiad
diweddaraf yw cyfleuster labordy 75 m2 newydd yn cynnwys yr offer diweddaraf.
Mae’r labordy dadansoddi bwyd yn caniatáu i gymeriad ac asesiad cyfansoddiadol o gynnyrch bwyd i gael ei wneud, gan gynorthwyo i greu gwell dealltwriaeth o dechnoleg prosesu, technegau a pherfformiad cynnyrch yn y farchnadle.
Mae’r labordy hefyd wedi darparu ymchwil i ymarferoldeb cynnyrch a chynhwysion o fewn systemau bwyd.
Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys:
- Asesu ewyn a sefydlogrwydd ewynnu mewn llaeth
- Asesiad o fwydydd swyddogaethol ar gyfer pobl sy’n dioddef o’r clefyd melys neu ordewdra
- Asesu bwydydd swyddogaethol ar gyfer iechyd calon a choluddion
- Cymeriadu olewau gwastraff bwyd fel tanwydd-bio
- Asesu nodweddion ansawdd cig wedi oeri
- penderfynu pwynt gorffen proses cynhyrchu cig wedi sychu gydag awyr
Gyda gwagle gweithio o 75m2 ac ystod lawn o offer dadansoddol mae labordy dadansoddi newydd y GTB wedi ei arfogi i gyfarfod gyda gofynion nifer o brosiectau ymchwil.
Mae ein hoffer yn cynnwys :-
- Dadansoddiad lleithder MX50
- Mesuryddion gweithgarwch D ŵr LabMASTER-
- Dadansoddwr Ansawdd TA.XTplus
- Tybrbiscan Fformiwlactio
- Dadansoddwr Clorin MKII
- Sbectromedr Sbectronic Thermo
- Dadansoddwr gwagle Nwy SYNTECH
- FOSS MilkoScan Minor 4
- Fiscomedr Brookfield PVII
Gyda chymorth yr offer uchod medrwn benderfynu ar weithgaredd d ŵr a lefelau lleithder mewn ystod o gynnyrch, darparu gwerthoedd manwl gywir o ddadansoddiad ansawdd a lefelau halen mewn ystod o fwydydd. Mae’r offer hefyd yn darparu i ni fodd o fonitro cynnwys awyr o fewn samplau i sicrhau ffresni ac ansawdd a rhoi manylion cynnwys cemegol mewn ystod o gynnyrch llaeth.
Mae’r ychwanegiadau diweddaraf i’n cyfleusterau labordy cynyddol yn cynnwys …
- UNED DISTYLLU SYSTEM FOSS STOEC A KJELYES 2100
Ar gyfer penderfynu ar lefelau braster a phrotein o fewn ystod o samplau o solidau neu hylif.
Mae gennym hefyd fynediad i HPLC, GCMS, LCMS, NMR a spectroscopi IR.
Heddiw, gall y GTB wir honni ei fod wedi cyflawni cryn dipyn tuag at gyfarfod nifer o’r problemau sy’n wynebu diwydiant. Gyda’r estyniad mawr newydd newydd ddechrau cael ei ddefnyddio, mae arloesi cyson yn mynd i gynyddu yn e gyflymdra.











