
Rhaglen Ymchwil Interreg IIIA :

Mae’r prosiect Interreg hwn yn anelu at gefnogi twf a datblygiad pellach i’r sector prosesu bwyd yng Ngogledd Orllewin Cymru a siroedd dwyreiniol Iwerddon. Mae’r prosiect wedi ei drefnu gan y Ganolfan Technoleg Bwyd a dau o ganolfannau Teagasc - Ashdown Food Researach Centre yn Nulyn a Moorepark Food Research Centre yng Nghorc.... mwy
Canllaw i Adalw Cynnyrch

Adroddwyd y bu yna 1342 o ddigwyddiadau yn ymwneud gyda bwyd yn y DU wedi eu trin a’u harchwilio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2006 (1). Mae llawer o’r digwyddiadau hyn lle'r oedd yna bryder ynglŷn â diogelwch bwyd, wedi arwain at gynnyrch yn cael ei alw’n ôl neu ei dynnu nôl i warchod buddiannau’r defnyddiwr.... mwy
Ydych chi eisiau…
- Ehangu eich busnes bwyd?
- Datblygu cynnyrch newydd?
- Gwella Cynnyrch Presennol?
- Hyfforddi eich staff?
Medrwn ni helpu!
Mae ein Technolegwyr Bwyd yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni , Môn
wedi ymgolli mewn tua 80 o brosiectau ymchwil a datblygiad (Y a D) arloesol.
Canolbwynt ein cyfleusterau yw cyfres o dair neuadd gynhyrchu ardderchog-
cig, cynnyrch llaeth a bwyd wedi eu paratoi - wedi eu llenwi gyda’r
offer diweddaraf. Cefnogir hyn gan labordy dadansoddol a chymeriadu’r
cynnyrch. Ac wrth gwrs yn y diwydiant bwyd rhaid bwyta er mwyn profi cynnyrch
- mae’r ganolfan hefyd yn gartref i gegin brawf/datblygu lle mae ein
cogyddion yn cwblhau ein bwydydd newydd eu datblygu!
Er bod ein prif bwyslais ar brosiect (Y a D), mae hyfforddiant ac addysg hefyd
yn hanfodol bwysig. Mae’r ganolfan yn cynnig nifer o gyrsiau gan gynnwys
y rhai sy’n arwain at gymwysterau a adnabyddir yn genedlaethol (hyd at
lefel HND). Cynigir nifer o gyrsiau CIEH hefyd yn cynnwys pynciau megis hylendid
bwyd, asesu perygl a thrin gyda’r dwylo, yn ogystal ag ystod o gyrsiau
arbenigol yn cynnwys datblygiad cynnyrch bwyd a systemau rheolaeth ansawdd.














CROESO I'R GANOLFAN TECHNOLEG BWYD