Astudiaethau Achos

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi gweithio'n llwyddiannus ar gannoedd o brosiectau i gwmnïau bwyd a diod yn lleol a chenedlaethol. Mae'r astudiaethau achos yn rhannu rhai o'r straeon hyn ac yn tynnu sylw at y profiadau cadarnhaol a gafodd y cwmnïau wrth weithio gyda thîm y Ganolfan.

  • Aerona
    Cyflwyniad

    Y gwirod aeron Cymreig Aerona1 yw'r cyntaf o'i fath i gael ei gynhyrchu a'i werthu yn y DU. Ffrwyth yw aeron aronia, a elwir ambell waith yn black chokeberry, sy'n gynhenid i lwyni collddail yng Ngogledd America. Cafodd y cwmni ei ffurfio yn 2010 ar ôl i Hazel Jones, ei gŵr Gwilym a'r teulu gymryd rhan mewn prosiect yn 2004 o'r enw MENTERRA , sef prosiect sy'n gweithio ar ddatblygu cnydau a phlanhigion newydd, yn ogystal â rhai traddodiadol, brodorol. Bu iddynt dreialu'r planhigion aronia fel rhan o'r prosiect hwn.

    Aerona

    Roedd y prosiect yn llwyddiant, a nawr maent yn defnyddio rhannau o'u fferm ym Mhen Llŷn i dyfu'r aeron.

    Doedden ni heb ddychmygu'r fath ymateb ar y dechrau, ond mae'r holl beth wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae tyfu'r fath beth yn eitha' anarferol, ond fe weithiodd, ac rydym yn gwneud yn dda.

    Mae pob potel yn unigryw, wedi ei llenwi â llaw a'i gorffen yn grefftus. Nid yw'r aeron yn cael eu gwastraffu ar ôl cael eu defnyddio; yn hytrach maent yn cael eu trochi mewn siocled tywyll cyfoethog sy'n 'berffaith ar gyfer unrhyw un sydd wedi gwirioni ar siocled'.

    Caiff dau o bobl eu cyflogi gan y cwmni sef Hazel sy'n gweithio'n llawn amser a'i mab sy'n gweithio'n rhan amser. Yng nghyfnod prysur yr haf a'r Nadolig caiff un aelod o staff tymhorol ei gyflogi i helpu gyda phacio a chynnal stondin yng Ngwyliau Bwyd Gogledd Cymru. Mae 70% o'u gwirod yn cael ei werthu i'r cyhoedd mewn Gwyliau Bwyd, a'r 30% arall yn cael ei gyfanwerthu (hynny yw, ei werthu mewn siopau a delicatessens lleol).

    Gan fod Aerona yn fusnes teuluol mae pob aelod o staff yn byw o fewn 5 milltir iddo ac mae 100% o'u cynhwysion yn dod o'r cyffiniau.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Cyfeiriwyd Aerona at y Ganolfan Technoleg Bwyd gyntaf gan MENTERRA pan sefydlwyd y busnes yn 2010. Meddai Hazel:

    Ers hynny rydym wedi cael llawer o gefnogaeth ganddynt ac mae hynny wedi bod yn help mawr inni.

    Bu iddynt gynnal profion cyfnod silff ar eu cynnyrch oedd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Roedd y gefnogaeth hefyd yn cynnwys dadansoddi ac asesu nodweddion a chyfansoddiad y cynnyrch gan wella eu dealltwriaeth o dechnoleg prosesu, technegau, a pherfformiad y cynnyrch yn y farchnad.

    Rhan bwysicaf y gefnogaeth a gynigwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd oedd profi cynnwys alcohol y gwirod Aerona oedd yn allweddol er mwyn gallu gwerthu'r cynnyrch i'r cyhoedd:

    Roedd angen gwneud arbrawf i brofi faint yn union o alcohol oedd yn y gwirod. Heb hynny, ni fyddai'n bosib ei werthu oherwydd rhaid iddo gael ei labelu'n glir.

    Dywedodd Hazel eu bod yn dibynnu ar y cyngor i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llwyr â'r rheoliadau a'r deddfwriaethau. Roedd hi'n teimlo'n hyderus wrth weithio ar y cyd gyda'r Ganolfan eu bod yn cyrraedd y safonau uchel sy'n angenrheidiol yn y diwydiant ac yn gallu gwella'r cynnyrch o hyd.

    Yn ogystal â hyn, defnyddiodd Aerona y Ganolfan i dreialu cynnyrch newydd a sicrhau bod ryseitiau penodol 'yn cyrraedd eu llawn botensial'.

    Manteision y Gefnogaeth

    Y fantais fwyaf arwyddocaol i'r busnes yw bod y Ganolfan yn gallu darparu'r "holl gyngor sydd ei angen arnom mewn un lle" gan sicrhau parhad o ran cefnogaeth ac arbenigedd:

    Byddai'n anodd iawn gwybod lle i fynd am gyngor o'r fath. Dydych chi ddim wir yn gallu dibynnu ar bobl eraill yn yr un diwydiant gan eu bod yn gallu bod yn gyfrinachol am beth maen nhw'n wneud ac yn gyndyn o rannu. Maent yn ddiduedd iawn yn y Ganolfan yn Llangefni.

    Yn ôl Hazel, mae cael Canolfan Technoleg Bwyd yn lleol yn golygu bod y cwmni wedi tyfu tua 10% yn gyflymach oherwydd nid oedd angen iddynt dalu "premiwm" am y gefnogaeth a'r cyngor a roddwyd. Mae'r Ganolfan wedi eu helpu i gyflwyno dau gynnyrch newydd ar y farchnad agored gan eu cefnogi wrth iddynt barhau i ddatblygu'r busnes.

    Bu'r cyngor yn ysgogiad i Aerona 'fwrw ymlaen i barhau', ac mae Hazel yn esbonio bod y Ganolfan wedi rhoi'r hyder iddi ymddiried yn ei chynnyrch a'i werthu yn y diwydiant bwyd.

    Mae gweithio gyda'r Ganolfan yn profi i bobl bod eich cynnyrch yn werth ei gael ac yn rhywbeth y byddant eisiau ei brynu.

    Nid yw Hazel yn credu bod angen gwella ar wasanaeth y Ganolfan gan ei bod 'wedi gallu helpu bob tro'.

    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae Aerona yn gobeithio parhau i ddatblygu'r busnes dros y blynyddoedd nesaf gan gyflwyno fersiwn ddialcohol o'r gwirod ac ehangu eu dewis o siocledi:

    Rydym yn fodlon iawn ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn edrych ar werthu i unrhyw siopau mwy neu archfarchnadoedd. Er hyn, rydym yn gobeithio cyflwyno cynnyrch newydd, a byddwn yn gofyn i'r Ganolfan Technoleg Bwyd pan fyddwn ni angen unrhyw help, maen nhw wir yn wych!

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae tîm Aerona wedi sefydlu eu hunain fel brand cydnabyddedig Cymreig ac mae eu llwyddiant yn wirioneddol anhygoel. Dydy Aerona byth yn gorffwys ar eu rhwyfau; maent wastad yn creu cynnyrch newydd a gwreiddiol o'r aeron gan ychwanegu at werth y cwmni. Marie Flinn - Uwch Dechnolegydd Bwyd

     
  • Beri Da
    Cyflwyniad

    Mae Beri Da yn fusnes teuluol sy'n cael ei redeg gan Angela a'i dwy ferch, Victoria ac Anna, o'u cartref ym Mhenygroes, Gwynedd. Maent wedi dyfeisio cynnyrch bwyd Cymreig sy'n defnyddio aeron aronia a dyfwyd yn organig ac a gasglwyd â llaw. Lansiwyd y finegr a'r siytni yn swyddogol yn ystod Pasg 2015.

    Beri Da

    Cafodd Angela ei hysgogi i ddefnyddio aeron aronia i greu cynnyrch bwyd "y byddai'r holl deulu yn ei fwynhau" ar ôl ymweld â gŵyl fwyd leol. Arbrofodd Angela gydag amryw o dechnegau a chynhwysion tan iddi benderfynu ar finegr ffrwythus a siytni anarferol ei flas:

    Roeddem eisiau cael rhywbeth unigryw, ffres a newydd, ac roedd y rhain yn teimlo fel yr union beth!

    Ar ôl cael cefnogaeth gan brosiect Cywain i fasnachu'n arbrofol rhwng Rhagfyr 2014 a Mawrth 2015, penderfynodd y teulu "roi cynnig arni" ac mae'r busnes wedi datblygu ers hynny. Mae Victoria ac Anna yn parhau i weithio'n llawn amser yn ogystal â gweithio ar Beri Da pryd bynnag y bydd amser yn caniatáu hynny.

    Gwerthir y cynnyrch ledled y wlad yn siopau Selfridges yn ogystal â mewn siopau a delicatessens lleol. Ym Mehefin 2015 rhoddodd y Savoy yn Llundain ganmoliaeth uchel i Finegr Ffrwythus Aronia ac mae'n cael ei ddefnyddio yn KASPARS, eu bwyty bwyd môr.

    Mae'r flwyddyn wedi bod yn brysur iawn, er mai newydd gael ei lansio mae'r busnes rydym wedi llwyddo i gyflawni gymaint yn barod.

    Dim ond cynnyrch lleol a ddefnyddir gan Beri Da ac maent yn gobeithio gallu parhau i wneud hynny. Maent yn tyfu'r aeron Aronia ar eu tir eu hunain ac yn prynu'r holl lysiau o fewn 10 milltir i'r busnes. Oherwydd bod y busnes yn un teuluol, mae pob aelod o staff yn byw o fewn pum milltir iddo.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Roedd Beri Da yn derbyn cefnogaeth gan y Ganolfan cyn lansio eu cynnyrch. Er mwyn cwblhau labeli ar gyfer y farchnad manwerthu derbyniodd y cwmni ddadansoddiad o werthoedd maeth eu finegr a'u siytni:

    Roedd yn rhaid i ni sicrhau bod popeth yn cael ei labelu'n gywir, a'u bod yn dangos y cynhwysion, y cynnwys halen ac ati. Gall rhywbeth fel hyn fod yn anodd pan ydych yn newydd i'r holl beth, ond roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd o gymorth mawr.

    Rhoddwyd cyngor iddynt ar gyfnod silff eu cynnyrch; cyfrifoldeb y gwneuthurwr ydi rhoi cyfnod silff ar bob cynnyrch. Hyd yn oed os defnyddiwyd modelau mathemategol o'r blaen i roi syniad clir o gyfnod silff cynnyrch, bydd dal angen i labordy fesur y gweithgaredd microbiolegol mewn bwyd. Cafodd cynnyrch Beri Da ei storio o dan yr amodau angenrheidiol a'i brofi ar gyfer yr organebau priodol.

    Rhoddwyd cyngor dros y ffôn i Beri Da gan dîm y Ganolfan, yn enwedig yn y cyfnod oedd yn arwain at y lansiad:

    Roedd yn wych gallu codi'r ffôn i siarad, a gan fod y Ganolfan mor agos roeddwn hefyd yn gallu taro heibio.

    Manteision y Gefnogaeth

    Prif fantais y gefnogaeth oedd bod Beri Da wedi gallu lansio'u cynnyrch ynghynt na phe baent heb gael mynediad at wasanaethau'r Ganolfan:

    Credaf y byddai wedi cymryd 6 mis arall i ni lansio a hyd yn oed wedyn efallai na fydden ni wedi bod yn barod.

    Enillodd y cwmni 'Gynnyrch Gorau Newydd 2015' yn Sioe Frenhinol Cymru oherwydd eu bod wedi gallu lansio'r cynnyrch cyn y digwyddiad. Esboniodd Victoria na fyddai hynny wedi bod yn bosib heb gefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd. Yn ei barn hi, roedd y wobr yn un 'bwysig" i'w hennill', ac fe osododd lwyfan iddynt allu adeiladu ac ehangu ar 'gylch da o gwsmeriaid'.

    Rhoddodd y Ganolfan Technoleg Bwyd hyder iddynt i lansio'u cynnyrch "ynghynt yn hytrach na'n hwyrach" ac roedd cael cefnogaeth yn lleol a gallu trafod wyneb yn wyneb yn bwysig hefyd:

    Roeddwn yn teimlo fy mod yn deall y broses yn well oherwydd fy mod yn gallu taro heibio i Langefni am sgwrs. Gallwn siarad wyneb yn wyneb yn lle gorfod prynu pecyn profi ar-lein. Roeddwn i'n teimlo'n fwy hyderus.

    Heb arbenigedd y Ganolfan Technoleg Bwyd nid yw Victoria'n teimlo'r 'byddai'r cwmni mor llewyrchus' ac mae'n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae'n wych gweld bod Beri Da wedi cyflawni gymaint mewn cyn lleied o amser! Rydym yn falch o fod wedi darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer eu cynnyrch a'u bod eisoes wedi ennill gwobrau. Pleser ydy gweld busnes newydd yn dechrau ac yn symud ymlaen mor gyflym, i'r pwynt lle mae Selfridges yn gwerthu eu cynnyrch. Paul Roberts, Datblygwr Busnes

    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ehangu a gwerthu eu cynnyrch ar "fwy o silffoedd". Maent eisoes wedi llwyddo i ennill Gwobr 'Great Taste 2015' ac yn gobeithio parhau i 'ledaenu'r enw da'.

  • Bim's Kitchen
    Cyflwyniad

    Sefydlwyd Bim's Kitchen yn 2010 gan ŵr a gwraig o'r enw James "Bim" a Nicola Adedeji. Wedi'i leoli yn Sir y Fflint, mae'r cwmni teuluol bach hwn yn creu cynnyrch bwyd sy'n seiliedig ar brydau o Nigeria lle ganwyd Bim. Maent yn defnyddio cynhwysion "egsotig" sy'n hanu o Affrica, neu'n cael eu defnyddio'n aml yno, megis ffrwyth baobab, cnau cashiw a blodau hibisgws i gynhyrchu sawsiau a chyfwydydd.

    Bim's Kitchen

    Mae Nicola a Bim yn gweithio'n llawn amser yn y busnes ac mae'r cynnyrch i gyd yn cael ei goginio â llaw mewn sypiau bach yn eu cegin fasnachol yn Afonwen. Dim ond cynnyrch o'r ansawdd uchaf a ddefnyddir. Bum mlynedd yn ôl roedd y ddau'n gweithio ac yn byw gyda'u dau blentyn ifanc yn Llundain. Roedd Nicola yn weithiwr llywodraeth leol a Bim yn was sifil, ond roedd arnynt awydd newid eu ffordd o fyw. Cafodd ffrindiau, teulu a chydweithwyr fwynhad o'u ryseitiau ac roeddent yn eu hannog i ddatblygu cynnyrch i'w werthu er mwyn i eraill gael eu mwyhau hefyd. O ganlyniad, dyma ddechrau coginio o'u cartref yn Llundain a gwerthu'r cynnyrch mewn marchnadoedd a siopau lleol. Wrth i'r busnes ehangu, roeddent yn prysur sylwi bod angen mwy o le ac offer arnynt:

    Doedden ni heb fwriadu aros yn Llundain am byth; roeddem yn gwybod ein bod ni eisiau gadael rywbryd. Benderfynon ni symud pan fethon ni ddiwallu'r archebion am ein cynnyrch o'r gegin yn ein cartref. Roedden ni'n chwilio ledled y wlad, ond yn Sir y Fflint cawsom hyd i hen dŷ tafarn gyda chegin fasnachol oedd yn berffaith i ni.

    Roedd y teulu yn adnabod crefftwyr eraill oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ac fe'u hanogwyd gan y gefnogaeth oedd ar gael i fusnesau yng Nghymru. Mae'r cynnyrch yn cael ei werthu mewn siopau bwyd a delicatessens ar draws Cymru a thu hwnt drwy ddosbarthwyr megis Cotswold Fayre, Blas ar Fwyd (o Lanrwst) a Diverse Foods, ac mae'r gwerthiant yn raddol gynyddu. Mae ganddynt hefyd gwsmeriaid cyson mewn gwyliau bwyd ar draws Cymru.

    Mae Bim's Kitchen yn prynu tua 30% o'u cynnyrch yn lleol a thua 70% gan gyflenwyr arbenigol ar draws y DU. Gellir dod o hyd i'w nwyddau mewn siopau fferm a delicatessens megis Siop Fferm Rhug Estate, Blas ar Fwyd, Siop Fferm Penarlâg , Wondrously Welsh a Bwyd Cymru Bodnant sy'n cyfrannu ar hyrwyddo cynnyrch lleol yng Nghymru.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Cafodd Bim's Kitchen wybod am y gefnogaeth oedd ar gael gan y Ganolfan Technoleg Bwyd drwy eu cynghorwr busnes yng Nghyngor Sir Ddinbych yn ogystal â thrwy'r tîm Bwyd a Diod yn Busnes Cymru. Yn ystod eu hymweliad cyntaf â'r Ganolfan Technoleg Bwyd ddwy flynedd yn ôl, roedd Bim a Nicola wedi ystyried defnyddio'r cyfleusterau ar gyfer cynhyrchu tymor byr, ond yn y pendraw, oherwydd y pellter, fe wnaethon nhw benderfynu buddsoddi yn eu cegin a'u hoffer eu hunain.

    Ar ôl cyfarfod tîm y Ganolfan roeddent yn awyddus iawn i ddefnyddio agweddau eraill ar y gefnogaeth oedd ar gael a chael cyngor am gyfnod silff eu cynnyrch:

    Roedd sawl peth angen ei ddiweddaru wrth i ni roi pethau ar waith yn Sir Ddinbych...helpodd y Ganolfan ni i ddilysu ein prosesau cynhyrchu a sicrhau ansawdd. Mae'r cyngor a'r wybodaeth a gawsom ganddynt wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn iawn.

    Yn ddiweddar cwblhaodd Bim a Nicola eu Dyfarniad HACCP Lefel 3 mewn Cynhyrchu Bwyd yn y Ganolfan Technoleg Bwyd.

    O ran cefnogaeth bellach, mae Bim's Kitchen yn awr yn gweithio tuag at gwblhau achrediad SALSA (Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol) a fyddai'n golygu eu bod yn gallu gwerthu i fusnesau mwy. Mae'r Ganolfan yn eu helpu i gyflawni hyn drwy ddarparu cefnogaeth arbenigol eu staff i gwblhau'r dogfennau angenrheidiol ymysg pethau eraill. Esboniodd Bim bod cael achrediad SALSA yn gallu bod yn "broses gymhleth a hir, yn enwedig ar gyfer busnes bach o ddau berson". Heb y gefnogaeth byddai'r busnes wedi dioddef oherwydd bod y prosesau yn anodd:

    Mae llawer o waith papur i'w gwblhau a rhaid dogfennu nifer o bolisïau a gweithdrefnau gwahanol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i fusnesau bach ond roedd y broses yn llawer haws i ni oherwydd y gefnogaeth a gawsom gan y Ganolfan Technoleg Bwyd.

    O ran gwelliannau posib, cred Bim y dylai'r Ganolfan gael 'tîm mwy' gan ei fod yn gwybod bod y galw am eu harbenigedd yn cynyddu.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae Bim's Kitchen yn parhau i sefydlu eu hunain fel cwmni bywiog a chyffrous. Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn falch o fod wedi eu cefnogi i weithio tuag at achrediad SALSA. Cawn weld cynnydd pellach yn Bim's Kitchen wrth iddynt barhau i ddatblygu cynnyrch gwreiddiol, newydd. Ann Marie Flinn, Uwch Dechnolegydd Bwyd

    Manteision y Gefnogaeth

    Prif fantais y gefnogaeth yw bod y " busnes wedi magu hyder" wrth allu siarad am  systemau rheoli cynhyrchu bwyd a'u datblygu. Roeddent yn cael gwybod am ddeddfwriaethau a chanllawiau sy'n berthnasol i'r maes bwyd. Yn ogystal â hyn cred Bim fod y Ganolfan wedi bod yn "bwynt cyswllt heb ei ail" ar gyfer unrhyw gwestiynau neu bryderon oedd ganddynt am yr agwedd dechnolegol o gynhyrchu bwyd gan eu galluogi i redeg busnes bwyd llwyddiannus yng Nghymru.

    Mae'r busnes yn tyfu tua 20%-30% bob blwyddyn, ac oherwydd yr adnoddau oedd ar gael, esboniodd bod y Ganolfan wedi arbed 5%-10% iddynt gan gynyddu maint eu helw:

    Yn anffodus chewch chi ddim cefnogaeth fel hyn y Lloegr, ond mae'r Ganolfan wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni.

    Teimla hefyd fod y Ganolfan wedi darparu "cyfeiriad clir" i'r busnes o ran eu helpu a'u cynghori i gael achrediad SALSA.  Bydd yr achrediad hwn yn helpu i ehangu'r busnes a chyrraedd marchnadoedd mwy.  Esboniodd Bim na fyddent "wedi cael amser" i weithio tuag at yr achrediad oni bai am gefnogaeth y Ganolfan:

    Mae'r busnes yn dal i dyfu a bydd yn parhau i wneud hynny unwaith i ni gael yr achrediad. Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi rhoi'r hyder angenrheidiol i ni fwrw 'mlaen i dyfu ac maen nhw'n sicr wedi'n helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol.

    Mae'n sicr fod gan y gan y Ganolfan wybodaeth eang am y deddfwriaethau a'r materion sy'n ymwneud â chynhyrchu bwyd a fyddai o fantais i sawl busnes bach i deimlo'n fwy 'diogel' a chael sicrwydd eu bod yn 'gwneud pethau'n iawn.

    Hyd yn hyn, mae'r busnes wedi ennill cyfanswm o dair ar ddeg o wobrau Great Taste yn cynnwys pedair yn 2015, ac yn gobeithio parhau i lwyddo yn y dyfodol.

    Cynlluniau at y dyfodol

    Fel y crybwyllwyd eisoes mae Bim's Kitchen yn gobeithio cwblhau eu hachrediad SALSA er mwyn gallu ehangu'r busnes drwy gynyddu allforion a gwerthu i fanwerthwyr mwy. Wrth symud i Sir y Fflint roeddent yn buddsoddi mewn offer coginio masnachol a chyfleusterau eraill ac yn awr maent yn barod i ehangu ymhellach..

    Mae Bim a Nicola'n ddiolchgar iawn i'r Ganolfan Technoleg Bwyd am ei chefnogaeth:

    Rydym yn falch ein bod yn gweithio ar y cyd gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd a hoffem weld eraill yn cael yr un ddarpariaeth dros y ffin yn Lloegr. Mae llawer o fusnesau bach sy'n llawn potensial yn ei chael yn anodd ymdopi gyda'r holl ofynion sydd arnynt ac rydym yn teimlo'n hynod o lwcus bod yr adnodd fforddiadwy hwn o fewn ein cyrraedd.

     
  • Canolfan Bwyd Cymru Bodnant
    Cyflwyniad

    Mae Canolfan Bwyd Cymru Bodnant wedi'i lleoli ym mherfeddion Dyffryn Conwy a'i hamgylchynu gan olygfeydd godidog o Eryri. Dewch o hyd i'r ganolfan ar Fferm  y Ffwrnais a adnewyddwyd ar Ystâd Bodnant.

    Ceir siop fferm, caffi, bwyty, llaethdy, becws ac ysgol goginio ar y safle. Mae'r Ganolfan yn lle gwych i arddangos cynnyrch Cymreig ac yn gyswllt da rhwng y cynhyrchwyr, y proseswyr a'r defnyddwyr.  Mae bron i dri chwater y cynnyrch yn Gymreig, a daw ei hanner o Ogledd Cymru'n unig gan gynnwys bwyd a gynhyrchwyd ar Ystâd Bodnant, megis cig oen, llefrith, caws a mêl.

    Bodnant Welsh Food Centre

    Caiff tua 100 o aelodau o staff eu cyflogi ar y safle, gyda'r mwyafrif yn gweithio'n llawn amser. Gwerthir y cynnyrch ar-lein, yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ei hun, mewn siopau lleol a delicatessens.

    Mae Caws Aberwen yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio llefrith lleol o ffynonellau sydd o fewn hanner milltir i Ganolfan Bwyd Bodnant.  

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Defnyddiodd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant y Ganolfan Technoleg Bwyd ar gyfer datblygu cynnyrch y llaethdy. Wrth gydweithio'n benodol gydag Aled, helpodd y Ganolfan i ddatblygu caws adnabyddus 'Aberwen'.

    Mae gan y llaethdy ym Modnant gyfleusterau i gynhyrchu eu cynnyrch eu hunain, ond roedd gweithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn caniatáu iddynt arbrofi gyda rysáit y caws cyn mynd ymlaen i'w gynhyrchu ar raddfa ehangach.

    Mae'n cyfleusterau ni yma yn caniatáu i ni gynhyrchu tua 1,500 litr o gaws a fyddai wedi bod yn ormod o bell ffordd tra oeddem yn arbrofi gyda'r rysáit. Cynhwysedd o 30-40 litr sydd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd ac roedd hyn yn well i ni oherwydd roedd yn golygu llai o wastraff

    Y Ganolfan Technoleg Bwyd oedd yn gyfrifol am yr holl waith datblygu, yn ogystal â darparu cyngor ar labeli gwerth maeth, cyfnod silff a materion technegol arall.   

    Ar ben hynny, enillodd Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant Ddyfarniad Lefel 3 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) mewn Gweithredu Dulliau Rheoli Diogelwch Bwyd, sy'n benodol ar gyfer perchnogion a rheolwyr busnesau lletygarwch ac arlwyo bach neu ganolig. Mae hyn yn cynnwys cwblhau'r 12 cam ym mhroses HACCP yn ogystal â hyfforddiant ar y rheoliadau sy'n hanfodol i sicrhau diogelwch bwyd.

    Manteision y Gefnogaeth

    Cafodd Canolfan Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant sawl mantais o'i hymwneud â'r Ganolfan Technoleg Bwyd.  Y brif fantais yw eu bod wedi gallu datblygu cynnyrch newydd heb 'dorri'r banc' gan ddileu'r risg o gynhyrchu symiau mawr.  

    Esboniodd Aled fod y broses hon yn "hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd da" gan fod y profi yn caniatáu i chi wella'r cynnyrch 'i'r safon ddisgwyliedig heb boeni ei fod yn costio gormod'.

    O ganlyniad roedd datblygu caws Afonwen, a enillodd wobr efydd yng Ngwobrau Caws Rhyngwladol Nantwich (2015), yn gost effeithiol i'r llaethdy ym Modnant ac mae hyn wedi caniatáu iddynt ddatblygu'r cynnyrch yn lleol:

    Rydym yn cynhyrchu bwyd lleol, felly mae'n bwysig ein bod ni'n cadw at yr egwyddor hon ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae defnyddio'r Ganolfan yn Llangefni wedi cryfhau ein hethos lleol.

    Mae Aled o'r farn bod arbenigedd a gwybodaeth y staff wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad caws Afonwen sydd wedi cyfrannu tua 10% at dwf y diwydiant llaeth yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant. Yn ddiweddar lansiwyd Clwb Caws Bodnant, sy'n cynnwys samplau o gaws Afonwen gyda'r bwriad o ddenu cwsmeriaid newydd.

    Yn ogystal, mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi caniatáu iddynt gystadlu yn erbyn llaethdai mwy sydd yn berchen ar eu cyfleusterau datblygu cynnyrch eu hunain:

    Does gennym ni ddim y cyfleusterau i brofi cynnyrch ac efallai na fydden ni wedi gallu creu Afonwen heb gymorth y Ganolfan Technoleg Bwyd.

    O ganlyniad, esboniodd Aled eu bod wedi gallu cynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel heb fuddsoddi symiau enfawr o arian ar gyfleusterau. Erbyn hyn caiff mwy o gaws Afonwen ei gynhyrchu yn y llaethdy yng Nghanolfan Bodnant, ond na fuasai hyn wedi bod yn bosib heb gymorth a chefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd:

    Mae ganddynt gefndir mewn cynhyrchu caws ac felly maent yn brofiadol iawn yn y maes. Doedd gennym ni ddim o'r profiad hwnnw ar y dechrau ond gyda help y Ganolfan rydym yn dal wedi gallu cynhyrchu caws o ansawdd uchel.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi ymwneud â'r siop arloesol hon o'r dechrau. Wrth gefnogi datblygiad cynnyrch caws Aberwen, rydym wedi gweld enw da Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn mynd o nerth i nerth. Gan weithio ar y cyd gyda Bodnant, mae tîm y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi darparu cefnogaeth dechnegol y tu ôl i'r llenni er mwyn datblygu cynnyrch newydd. Martin Jardine, Rheolwr y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae llaethdy Bodnant yn awr yn gweithio gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd ar gynnyrch newydd ac maent yn gobeithio parhau i ddatblygu eu cynnyrch llaeth gan lynu at yr ethos lleol:

    Mae gennym ni'r cyfleusterau i wneud y caws, a gyda chymorth a phrofiad eraill rydym yn gobeithio ehangu ar yr hyn sydd eisoes ar gael.

     
  • Caws Castell Gwyn
    Cyflwyniad

    Busnes newydd wedi'i leoli yng Nghonwy yw Caws Castell Gwyn ac mae'n cael ei redeg gan Jackie Whittaker. Mae'i stoc yn cynnwys cawsiau tebyg i brie, camembert a chaws Sir Gaerhirfryn ac er nad yw wedi lansio'r cynnyrch yn swyddogol eto, mae hi wedi bod yn "brysur iawn" yn ei farchnata a'i frandio. Enillodd y St Tudno, caws camembert a ddatblygwyd yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, wobr arian yng Ngwobrau Caws Rhyngwladol Nantwich (2015).

    Castell Gwyn Cheese

    Cafodd Jackie'r "syniad" ar gyfer Caws Castell Gwyn ar ôl bod ar gwrs caws tri diwrnod yn y Ganolfan Technoleg Bwyd.

    Ro'n i wastad wedi bod eisiau dechrau fy musnes fy hun ac fe wnaeth y cwrs yn y Ganolfan Technoleg Bwyd fy ysbrydoli i roi cynnig arni. Ro'n i'n meddwl y buasai'n hwyl cael gwneud rhywbeth hollol wahanol.

    Ar hyn o bryd, mae'n gweithio'n llawn amser ym Mhrifysgol Bangor i LEAD Cymru, rhaglen a gynlluniwyd er mwyn datblygu a chryfhau sgiliau arweinyddiaeth perchenogion a rheolwyr busnesau bychan a chanolig ar draws Cymru.

    Mae bod yn rhan o LEAD Cymru a gweithio gyda bron i 300 o fusnesau wedi dysgu llawer i mi am fyd busnes – rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd datblygu brandiau llwyddiannus, rhwydweithio a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol. Mae'r cyfan wedi helpu

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Cafodd Jackie wybod am y Ganolfan Technoleg Bwyd drwy ei gwaith i Brifysgol Bangor. Yn 2013 cafodd y cyfle i fynd ar gwrs yno ar y grefft o wneud caws. Roedd y cwrs hefyd yn edrych ar ddosbarthiad caws yn ystod y gwahanol gamau cynhyrchu:

    Dysgodd y cwrs bopeth roedd angen i ddechreuwr fel fi ei wybod.

    Ar ôl bod ar y cwrs roedd ganddi ddiddordeb mewn dechrau ei busnes ei hun a chadwodd gysylltiad â'r Ganolfan Technoleg Bwyd. Drwy'r Ganolfan daeth i wybod am y grantiau oedd ar gael gan Cywain a chafodd gefnogaeth mentor ynghyd a chymorth i labelu a phrofi'r cynnyrch yn fasnachol mewn gwahanol ddigwyddiadau a lleoliadau. Cafodd 75% o grant gan Cywain oedd yn cyfrannu at wahanol agweddau ar y busnes:

    Des i wybod am yr holl gefnogaeth oedd ar gael drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd a Cywain. Roedd y tîm yn wych.

    I ddatblygu'r cynnyrch newydd cafodd Jackie ddefnyddio cyfleusterau'r Ganolfan Technoleg Bwyd gan wneud y broses yn 'llawer mwy posib'. Derbyniodd gyngor yn ogystal ar systemau diogelwch bwyd, ynghyd ag ar faterion technegol megis dadansoddi gwerth maethol a chynnal profion micro i sicrhau bod y caws yn 'addas i'w werthu.

    Manteision y Gefnogaeth

    Ni fyddai Jackie wedi gallu sefydlu Caws Castell Gwyn heb y gefnogaeth a gafodd. Esboniodd y byddai wedi bod yn "amhosibl" dod o hyd i 'ganolfan sy'n cynnig popeth' gan gynnwys cyngor ar y cymorth ariannol oedd ar gael.

    Yr agweddau pwysicaf ar y gefnogaeth fusnes iddi hi oedd y mentora a'r cyngor un i un, ynghyd ag arbenigedd technegol a gwybodaeth am y farchnad a'r economi ehangach. Cyfrannodd hyn oll at hyder Jackie yn ei chynnyrch a'i hysgogi i fynd at i ddechrau ei busnes ei hun.

    Ar y cyfan, mae hyn wedi bod yn gyfle euraidd, ac wedi agor drysau i roi pethau ar waith, ro'n i wastad wedi bod eisiau dechrau fy musnes fy hun, a rhoddodd y Ganolfan Technoleg Bwyd yr hyder i mi wneud hynny.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi gweithio gyda Caws Castell Gwyn o'r cam cychwynnol hyd nes iddo sefydlu ei hun fel busnes. Bydd rhagor o lwyddiant yn sicr o ddod i ran cwmni sydd mor angerddol a phenderfynol â Chastell Gwyn. Law yn llaw â chefnogaeth dechnegol y Ganolfan Technoleg Bwyd ar faterion megis Datblygu Cynnyrch Newydd maent yn siŵr o fynd ymhell. Ann Marie Flinn, Uwch Dechnolegydd Bwyd

    Cynlluniau at y dyfodol

    Bydd Jackie'n lansio'i chynnyrch cyn Nadolig 2015, ac mae eisoes wedi cael archebion gan siopau bwyd a delicatessens lleol. Mae ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ehangu gan gyflogi aelod ychwanegol o staff a mynd ymlaen efallai i allforio'i chynnyrch.

    Dw i'n gobeithio cynhyrchu caws artisan o safon yma yng Ngogledd Cymru.

     
  • Cryms
    Cyflwyniad

    Busnes micro ym Mhen Llŷn, Gwynedd yw Cryms a'r perchnogion yw Kit Ellis a Sioned Williams. Mae eu cynnyrch yn cynnwys bisgedi brau, cyffug a thaffi triog traddodiadol (rysáit Mam Sioned). Maent yn defnyddio 'cymysgedd unigryw' o flasau a sbeisys gan gynnwys meringue lemwn, sinamon, cnau pecan a chaws sawrus i sicrhau bod y bisgedi'n rhai 'heb eu hail'. Nid ydynt yn anghofio chwaith am gwsmeriaid sydd â gofynion dietegol arbennig gan baratoi cynnyrch di-lwten a danteithion ar gyfer y rhai sydd â chlefyd siwgr.

    Cryms

    Sefydlwyd Cryms yn Nhachwedd 2013 fel partneriaeth rhwng "dwy ffrind agos", ac ers hynny mae'r busnes wedi graddol ehangu. Roedd Sioned, sy'n paratoi a choginio bob rysáit, ar un adeg yn un o fyfyrwyr Kit yn y coleg, ac maent wedi adnabod ei gilydd ers 25 mlynedd:

    Mae'n bosib dweud bod Cryms wedi dod i fodolaeth ar ddamwain. Arferai Sioned wneud bisgedi cartref i westeion ei bwthyn gwyliau, ac roeddwn innau yno un diwrnod tra oedd yn pobi. Wedi i mi flasu'r bisgedi dywedais wrthi'n blwmp ac yn blaen y dylai eu gwerthu a gwneud ei ffortiwn. Dydyn ni heb ennill ffortiwn eto, ond mae pethau'n mynd yn dda.

    Wrth ymateb i sylwadau Kit, dywedodd Sioned fod rhywun oedd yn dweud ffortiwn wedi dweud wrthi unwaith y byddai'n rhagori yn ei sgiliau pobi ac roedd hyn yn ysgogiad pellach i'r busnes a phenderfyniad y ddwy i wneud iddo lwyddo:

    Rydym ni wrth ein boddau'n gweithio mewn cymuned amaethyddol, ac roedd gallu parhau i weithio'n lleol ar fferm Sioned yn rhan o'r cynllun busnes. Mae'n rhaid bod hynny am ein bod ni'n dwy'n hoffi gweithio gyda dynion ac yn dod o gefndir amaethyddol!

    Mae'r ddwy yn gweithio'n llawn amser i'r busnes ac yn cyflogi tri gweithiwr tymhorol arall ar adegau prysur megis yr haf a'r Nadolig. Oherwydd y cynnydd yn y galw dros y flwyddyn ddiwethaf cyflogwyd dau weithiwr tymhorol arall i helpu i werthu'r cynnyrch mewn gwyliau bwyd ar draws Cymru. Mae gallu bod yn hunangyflogedig a chyflogi staff ychwanegol pan fo'r angen yn "fonws" ar gyfer y busnes.

    Yn ei chegin ei hun roedd Sioned yn gweithio cyn adeiladu uned arbennig ar ei fferm yn 2012. Yn ôl Kit, gall Sioned goginio tua 2,000 o fisgedi'r dydd yn yr uned hon:

    Mae'n hollbwysig bod popeth rydym yn ei greu yn blasu fel rhai cartref a dyna pam mae Sioned yn gwneud popeth ei hun.

    Mae'r cynnyrch yn cael ei werthu mewn delicatessans ar draws Cymru ac mewn siopau bwyd mwy megis Spar a Londis.

    O ran cysylltiad Cryms â'r economi, mae pob aelod o staff gan gynnwys y gweithwyr tymhorol yn byw ym Mhen Llŷn. Daw 100% o'r cyflenwyr o Ynysoedd Prydain a 10% o'r rhain o Wynedd a Môn.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Derbyniodd Cryms gefnogaeth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd gyntaf yn 2013/2014 ac roedd Kit yn cysylltu â nhw'n rheolaidd bob mis, ar y ffôn neu drwy e-bost. Clywed gan eraill am y gefnogaeth oedd ar gael wnaeth Kit a Sioned ac yn sgil hynny dechrau dilyn y cwrs CIEH Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd. Roedd yr hyfforddiant yn fuddiol iawn i wella'u gwybodaeth am baratoi a storio bwyd, yn ogystal â thynnu sylw at y ddeddfwriaeth berthnasol a phwysigrwydd rhoi arferion hylendid da ar waith.

    O ganlyniad i'r hyfforddiant hwn fe'u hanogwyd i droi ar y Ganolfan am gefnogaeth bellach. Yn ôl Kit roedden nhw'n "gefnogol iawn" ac yn:

    Deall yr hyn roeddem am ei gyflawni ac yn gwerthfawrogi pam ei bod yn bwysig i ni fod y cynnyrch yn teimlo fel bwyd cartref

    Roedd cyfleusterau'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn caniatáu i Cryms wneud eu cynnyrch ar raddfa ddiwydiannol fechan ac i arbrofi â gwahanol gymysgedd o flasau, er enghraifft bu iddynt brofi math penodol o fisged frau cyn ei rhyddhau ar y farchnad. Roedd cael llogi'r cyfleusterau yn golygu eu bod yn gallu penderfynu a oedd galw am eu cynnyrch cyn buddsoddi mewn unrhyw offer cegin arbenigol ar gyfer eu huned eu hunain.

    "Mae'n bwysig bod busnesau bwyd yn cael profi a oes galw am y cynnyrch cyn parhau â'r cynllun," a bu ansawdd gwasanaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd yn ogystal â'r galw amlwg am eu cynnyrch yn ysbrydoliaeth iddynt ddatblygu Cryms ymhellach. Rhoddwyd cyngor iddynt ar gydymffurfio â'r gofynion cyfreithlon o ran labelu bwyd megis gweithgaredd dŵr a rhestru cynhwysion a materion cyfreithiol eraill sy'n hanfodol i bob busnes.

    Nid yw Cryms yn ymwybodol o unrhyw wasanaethau cefnogi eraill sydd ar gael yn lleol ac mae Kit o'r farn bod y ffaith bod y Ganolfan mor agos i Ben Llŷn wedi bod yn bwysig. Esboniodd Kit bod y gefnogaeth wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y busnes; roedd ganddynt fynediad at gyngor arbenigol yn lleol ar sut i symud ymlaen gyda gwahanol syniadau am gynnyrch newydd.

    Cred Kit y gallai'r Ganolfan Technoleg Bwyd hyrwyddo'i gwasanaethau a'i chyfleusterau'n well. Teimla "nad oes digon yn cael ei wneud i adael i fusnesau wybod faint o gymorth gall y Ganolfan ei gynnig".

    Manteision y Gefnogaeth

    Mae cefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi galluogi Cryms i ddatblygu eu busnes ymhellach neu fel yr esbonia Kit, "ein helpu i wybod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, a sicrhau ein bod yn cadw at y rheolau", drwy brofi'r farchnad ar gyfer cynnyrch newydd.

    Yn ôl Kit, un o heriau mwyaf sefydlu busnes bwyd yw deall a dilyn yr holl ddeddfwriaethau ar gyfer gwerthu cynnyrch i'r cyhoedd, a heb gefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd, byddai'r busnes wedi ei chael yn anodd datblygu:

    Dydw i ddim yn awgrymu na fydden ni wedi parhau gyda'r busnes, ond byddai wedi cymryd llawer hirach i ni ddeall beth oedd yn ddisgwyliedig ohonom a beth yn union oedd angen ei wneud i sicrhau bod y labeli'n gywir. Ni fyddem wedi gallu gwerthu'r cynnyrch oni bai am y Ganolfan.

    Yn ôl Kit, heb y Ganolfan ni fyddai Cryms wedi gallu sefydlu ei hun gystal dros y blynyddoedd diwethaf, a byddai'r cwmni 12 mis ar ei hôl hi. Pwysleisiodd mai'r Ganolfan sy'n rhannol gyfrifol am y cynnydd o tua 30% mewn trosiant dros y flwyddyn ddiwethaf a bod hyn wedi arwain at allu cyflogi staff ychwanegol.

    Rhoddodd glod hefyd i'r staff y Ganolfan am ddangos ymroddiad llwyr tuag at eu cleientiaid a'r cynnyrch:

    Mae ganddynt y gallu i ysbrydoli ac maent yn credu'n angerddol yn yr hyn maent yn ei wneud. Mae hyn yn dod yn amlwg iawn wrth i chi weithio gyda nhw.

    Roedd diddordeb y Ganolfan yn ei chleientiaid yn amlwg iawn ar y diwrnod yr enillodd taffi triog Cryms wobr Great Taste 2015. Anfonodd y Ganolfan e-bost atynt i'w llongyfarch ac esbonio Kit mai "cyffyrddiadau bach hynny sy'n gwneud i ni fod eisiau gweithio gyda nhw dro ar ôl tro".

    Mae gwybodaeth leol yn ogystal â'r ffaith bod y Ganolfan yn lleol wedi bod yn bwysig i'r busnes, yn enwedig yn awr gan fod Cryms yn gobeithio ehangu'u ceginau i fecws lleol y daethant i gysylltiad â'r perchennog fel rhan o'u gwaith gyda'r Ganolfan Technoleg Bwyd. Bydd hyn yn golygu cynnydd o ran cynnyrch fydd yn cyfrannu at gynlluniau i ehangu ymhellach yn y dyfodol. Mae cael perthynas dda â'r Ganolfan wedi annog Cryms i feddwl sut y gallant elwa ar werthu cynnyrch newydd, ac roedd gallu defnyddio'r offer yno yn fantais fawr: "cawsom fenthyg cyllell gaws arbennig er mwyn gallu gwneud cast ohoni i wneud bisgedi, alla i ddim credu y byddai canolfannau eraill yn fodlon helpu gyda phethau bychain fel 'na".

    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae Cryms yn gobeithio gweithio o leoliad ychwanegol mewn becws lleol (cyswllt a wnaed drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd) unwaith neu ddwywaith yr wythnos er mwyn ehangu a chynyddu eu cynhyrchiant. Tua 6 wythnos yn ôl cafwyd archeb am 44,000 o bacedi bisgedi a heb gynyddu cynhwysedd byddai hyn yn amhosibl. Mae cynnal ansawdd y cynnyrch yn bwysig iawn i'r ddwy ohonynt, ac mae caniatáu i Sioned bobi ei danteithion ei hun yn rhan allweddol o hyn.

    Mae'r cwmni'n gobeithio gwerthu'r cynnyrch i archfarchnadoedd a byddant yn arddangos yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig mewn digwyddiadau megis y Speciality and Fine Food Fair yn Llundain ym mis Medi 2015.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Rydym wrth ein bodd fod Cryms yn ehangu mor gyflym yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae Sioned a Kit wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Ganolfan ac mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn iddynt. Wrth edrych i'r dyfodol rydym yn gobeithio parhau i'w cynorthwyo i ddatblygu cynnyrch newydd a hybu twf pellach. Paul Roberts, Datblygwr Busnes

     
  • Eboni ac Eifori
    Cyflwyniad

    Busnes teuluol ym Mhwllheli, Pen Llŷn yw Eboni ac Eifori . Mae'r teulu'n cynnwys Andrew a'i wraig Lisa, a'u meibion Mathew a Ben. Penderfynodd Mathew sefydlu'r busnes ar ôl gadael Prifysgol Bryste yn 2008:

    Roedd Mathew eisiau mynd i weithio i'r byd bancio yn Llundain; dyna oedd ei ddiddordeb. Ond roedd bancio'n mynd drwy gyfnod gwael ar y pryd, felly penderfynodd wneud rhywbeth dros dro a fyddai'n ennill ychydig o arian iddo.

     
    Eboni ac Eifori

    Erbyn hyn mae Mathew yn gweithio fel cyfrifydd siartredig yn Llundain, a'i frawd Ben ynghyd ag Andrew a Lisa sy'n rhedeg y busnes o ddydd i ddydd. Maent yn cyflogi 5 gweithiwr llawn amser, gan gynnwys hwy eu hunain, ac mae'r cyfanswm wedi cynyddu o ddau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Caiff y cynnyrch ei werthu mewn 200 o siopau Marks and Spencers ar draws y wlad ac i amryw o siopau a delicatessens lleol.

    Mae Eboni ac Eifori'n defnyddio cynnyrch lleol o ogledd-orllewin Cymru pan fo hynny'n bosib. Caiff y cynnyrch ei gynhyrchu'n lleol a daw 50% o'r cynhwysion o Wynedd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cynnyrch busnesau micro lleol eraill megis Halen Môn , Poblado Coffi a Mêl Eryri:

    Mae defnyddio cynhwysion arbenigol o ffynonellau lleol yn ein gwneud yn wahanol ac yn rhoi rhyw naws ychwanegol i'r busnes. Rydych yn gwneud cysylltiadau mewn gwyliau bwyd ac mae popeth yn cyfrannu at yr economi leol.

    Wrth gwrs, nid yw'n bosibl cael yr holl gynhwysion yn lleol ac o Loegr y daw eu siwgr er enghraifft. Mae pob aelod o staff yn byw ym Mhen Llŷn.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Daeth Eboni ac Eifori i wybod am gymorth y Ganolfan Technoleg Bwyd yn 2010 drwy gynhyrchwyr bwyd lleol eraill. Cafwyd "canmoliaeth uchel" i'r Ganolfan yn ôl Andrew, ac aeth y busnes ati i'w defnyddio am gyngor ynghylch deddfwriaeth labelu a chyfnod silff cynnyrch.

    Cafodd y busnes gymorth hefyd i gwblhau achrediad SALSA, sef safonau diogelwch bwyd sy'n adlewyrchu gofynion cyfreithiol y cynhyrchwyr a disgwyliadau cynyddol prynwyr bwyd proffesiynol o ran "arferion gorau". Gyda'r achrediad hwn, gall y busnes:

    Feddwl am ddechrau gwerthu i archfarchnadoedd mwy megis Waitrose ac M&S. Helpodd y Ganolfan Technoleg Bwyd ni drwy ddweud wrthym beth yn union roedd rhaid i ni ei wneud i gael yr achrediad hwn.

    Cafwyd cyngor gan aelod o staff y Ganolfan i sicrhau eu bod yn cyrraedd yr holl safonau iechyd a diogelwch. Roedd cyflawni hyn golygu bod Eboni ac Eifori yn gallu datblygu eu busnes gan eu bod yn gallu profi eu bod yn dilyn y camau cywir i sicrhau bod eu bwyd yn ddiogel i'w fwyta. O ganlyniad gallant yn awr werthu i'r prif fanwerthwyr i gyd.

    Roedd Andrew yn gallu profi cyfnod silff y cynnyrch cyffug a "rhoddodd hyn hyder i ni fod popeth roeddem yn ei werthu wedi'i labelu'n glir i'r cwsmer". Derbyniodd y busnes gyngor technegol hefyd ar y wybodaeth ar faeth oedd angen ei rhoi ar labeli.

    Esboniodd fod gan bob gwlad neu ardal ei rheoliadau labelu maeth ei hun, ac mae gwahaniaethau mawr rhwng y dulliau profi sy'n cael eu cymeradwyo. Rhoddodd y Ganolfan Technoleg Bwyd gymorth iddo sicrhau ei fod yn arddangos y wybodaeth gywir ar ei gynnyrch, ac o ganlyniad roedd y broses yn "llawer symlach".

    Mae Andrew yn ymwybodol fod canolfannau technoleg bwyd eraill yn bodoli, ond mae'n ddiolchgar iawn bod canolfan leol ar Ynys Môn wedi gallu darparu cyngor technegol ac ymarferol yn ogystal ag arweiniad.

    Manteision y Gefnogaeth

    Mae Eboni ac Eifori wedi cael sawl mantais o ddefnyddio'r Ganolfan Technoleg Bwyd. Y brif fantais oedd y cyngor ynghylch achrediad SALSA sydd wedi arwain at werthu eu saws taffi ar silffoedd 200 o siopau Marks and Spencers ar draws y wlad. Heb y gefnogaeth hon byddai'r busnes wedi bod "flwyddyn ar ei hôl hi" yn ei ddatblygiad: "Fydden ni wedi bod lle rydym ni heddiw".

    Gorau oll, y mwyaf o sylw a gewch chi i'r busnes oherwydd bydd mwy o bobl yn gweld eich cynnyrch a'r busnes o ganlyniad yn tyfu

    Mae hyn oll wedi golygu cynnydd o thua 10% yn eu trosiant dros y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o ddau weithiwr tymhorol i bacio'r cynnyrch.

    O ganlyniad i'w llwyddiant diweddar, mae Eboni ac Eifori wedi ennill sawl gwobr 'Great Taste', a gwobr aur am Gyffug Fanila "sy'n cael ei wneud yn ddyddiol" ac a fydd yn cael ei werthu yn Marks and Spencer cyn y Nadolig. Bydd y berthynas "bositif" rhwng y busnes a'r manwerthwr yn parhau, ac yn galluogi iddynt dyfu dros y blynyddoedd nesaf.

    Mae'r cyngor technegol a'r cyngor a gafwyd ar faeth wedi rhoi iddynt yr hyder i ymateb i newidiadau mewn rheoliadau yn y farchnad ac maent yn teimlo bellach bod ganddynt yr arbenigedd i ddarparu bwyd o ansawdd i gwsmeriaid:

    Mae hyn wedi cadarnhau bod gennym gynnyrch sy'n ddigon da i'w werthu a bod ein gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.

    Mae Andrew hefyd yn credu bod arbenigedd y Ganolfan Technoleg Bwyd a'i dealltwriaeth o rôl cynhyrchwyr bach a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ymgyfarwyddo â marchnadoedd mwy wedi bod yn hollbwysig.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi gweld Eboni ac Eifori yn tyfu'n gyflym. Rydym yn falch o weld bod cefnogaeth a chyngor y Ganolfan wedi eu helpu i fagu hyder a sicrhau busnes gyda sawl manwerthwr allweddol megis Marks and Spencer. Paul Roberts, Datblygwr Busnes

    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae Eboni ac Eifori yn gobeithio parhau gyda'u cynllun i werthu i fanwerthwyr ac archfarchnadoedd mwy. Denodd eu stondin yn y Sioe Frenhinol eleni sylw Co-Operative, Asda a Selfridges ac o ganlyniad maent yn gobeithio y bydd eu cynnyrch i'w weld yn fuan ar eu silffoedd hwy hefyd:

    Rydym yn parhau i weithio'n galed ac yn ehangu drwy'r amser. Ein gobaith yw parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd sydd i ddod.

     
  • Hufenfa De Arfon
    Cyflwyniad

    Hufenfa De Arfon, a sefydlwyd yn 1938 ac sydd wedi'i leoli ym Mhen Llŷn, yw llaethdy cydweithredol hynaf Cymru.

    Gweledigaeth John Owen Roberts oedd Hufenfa De Arfon a'i fwriad oedd "gweld ffermwyr llaeth yn cydweithio er mwyn gallu gwerthu eu llefrith eu hunain". Ar y pryd roedd ffermwyr yn gyndyn o ymuno â'r cynllun. Bu llaethdai cydweithredol yr ardal yn fethiant, ac roedd gwrthwynebiad pellach gan ffermwyr oedd yn gwerthu eu llefrith yn uniongyrchol i bobl leol Pen Llŷn; roeddent yn gweld llaethdai cydweithredol yn fygythiad i'w bywoliaeth. Prin 63 aelod oedd yn 1938 ond erbyn heddiw mae'r ffigur wedi codi i 200.

    South Caernarfon Creameries

    Mae eu cynnyrch menyn a chaws yn cael eu gwerthu erbyn hyn o dan y brand 'Dragon'.

    Mae'r cwmni'n cyflogi 100 o aelodau staff llawn amser ac yn cyflenwi caws a menyn yn genedlaethol a dros y byd, i archfarchnadoedd ar draws y DU ac i siopau llai a delicatessens lleol.

    Mae pob aelod o'r staff yn byw o fewn 20 milltir i'r Hufenfa a daw 90% o'r cyflenwadau o ffynonellau lleol. Oherwydd ei statws 'gydweithredol' gall y cwmni sicrhau "pris lleol teg" i bob aelod.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae Hufenfa De Arfon wedi cael pob math o gefnogaeth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd ar hyd y blynyddoedd.

    Rydym wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers o leiaf 10 mlynedd. Rydym yn sgwrsio'n anffurfiol bob tua thri mis gan ddibynnu ar yr hyn sydd gennym ar y gweill yma

    Aethant at y Ganolfan gyntaf er mwyn iddi gynnal profion er eu llefrith i ganfod pam ei fod mor ewynnog. Profwyd mai'r protein yn y llefrith oedd yn gyfrifol am hyn:

    Roedd yn bwysig ein bod yn gallu profi pam fod ein llefrith mor ewynnog ac nad cynhwysyn arbennig oedd yn ei achosi ond protein hollol naturiol.

    Cynhaliodd y Ganolfan Technoleg Bwyd brofion ar lefelau'r halen ym menyn yr Hufenfa er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at reolau'r ASB (Asiantaeth Safonau Bwyd). Mae'r Ganolfan yn ceisio cyfyngu ar lefelau'r halen mewn bwyd a gynhyrchir ac maent wedi diweddaru eu canllawiau ar y lefelau sy'n dderbyniol. Wrth weithio gyda'r Ganolfan gallodd yr Hufenfa gyrraedd y targedau a osodwyd gan yr ASB gan barhau i allu cyflenwi i gwsmeriaid presennol yn ogystal â rhai newydd.

    Yn ogystal â hyn, mae'r cwmni wedi cwblhau cyrsiau Iechyd a Diogelwch drwy'r Ganolfan gan gynnwys Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd a Dyfarniad Lefel 3 mewn HACCP ar gyfer Cynhyrchu Bwyd sy'n gymhwyster pwysig ar gyfer perchenogion busnes a busnesau cynhyrchu bwyd. Seilir y cwrs ar raglen hyfforddi un diwrnod sy'n sicrhau bod ymgeiswyr yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol i roi cynllun HACCP ar waith yn y gweithle.

    Mae Richard yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Ganolfan, yn enwedig o weld y manteision sydd wedi dod i'r Hufenfa yn sgil y gefnogaeth honno.

    Manteision y Gefnogaeth

    Mae cefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi golygu bod y cwmni yn ymwybodol o ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol ac mae hynny'n caniatáu iddynt werthu'r cynnyrch yn "hyderus" ar y farchnad.  Yn benodol, galluogodd y profion halen ar y menyn hwy i leihau lefelau'r halen "heb amharu ar yr ansawdd" a heb niweidio eu marchnad: 

    Mi wnaethom ni fanteisio ar eu profiad arbenigol i leihau lefel yr halen yn ein menyn. Roedd yn bwysig i ni fod y menyn yn dal i flasu'n dda a'n bod hefyd yn hyderus ein bod yn dilyn y canllawiau'n gywir.

    Roedd y gefnogaeth yn "gost effeithiol"; yn wir fe'i galluogodd i leihau tua 5% ar gostau. Cred Richard fod y Ganolfan wedi cynyddu eu hyder yn y busnes, yn enwedig o ran deddfwriaethau a chanllawiau bwyd.

    Mae'r ffaith fod gwasanaeth "mor arbenigol" ar gael yn lleol yn bwysig hefyd ac yn ychwanegu at apêl eu cynnyrch i brynwyr.

    Mantais arall yw cynnydd yn hyder staff y busnes; wrth fynd ar gyrsiau hyfforddi a gweithdai yn y Ganolfan roeddent yn ennill y sgiliau oedd yn angenrheidiol i gyflawni eu gwaith yn effeithlon:

    Fel arall byddai'n rhaid iddynt fynd i dde Lloegr i gwblhau rhai o'r cyrsiau. Ond chewch chi ddim gwasanaeth gwell na'r un sydd ar gael yn lleol yn y Ganolfan Technoleg Bwyd.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae'r Ganolfan Technoleg bwyd yn falch o weithio gyda chyflogwr lleol mor allweddol â Hufenfa De Arfon. Dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu perthynas agored sy'n galluogi'r Ganolfan i gefnogi'r Hufenfa ar faterion technegol a hyfforddiant mewn modd sy'n diwallu eu hanghenion. Martin Jardine, Food Technology Centre Manager

    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae Hufenfa De Arfon wrthi'n adeiladu ffatri gaws newydd ar y safle fydd wedi ei chwblhau erbyn Tachwedd 2015. Gobaith y cwmni yw "buddsoddi yn y dyfodol" gan barhau i gyfrannu i'r economi leol a budd yr aelodau cydweithredol. Byddant yn parhau i droi at y Ganolfan Technoleg Bwyd am gymorth yn ôl yr angen.

    Mae gennym ni berthynas dda â'r Ganolfan a does dim byd byth yn ormod o broblem iddynt. Rydym yn gobeithio y bydd ein perthynas yn parhau am flynyddoedd i ddod

     
  • The Little Welsh Cheese Company
    Cyflwyniad

    Teimla Jo Smith yn "angerddol am bopeth yn ymwneud â bwyd", a daeth y syniad am y Little Welsh Cheese Company iddi yn 2014. Fel yr awgryma'r enw, cynhyrchwyr caws bychan yng Nghymru yw'r cwmni. Pan gynhaliwyd y cyfweliad hwn nid oedd Jo wedi dechrau gwerthu'i chynnyrch, ac roedd wrthi'n dylunio'r pacedi a'r labeli ac yn trefnu digwyddiad lansio:

    Mae hi'n gyfnod cyffrous iawn a minnau'r paratoi at lansio. Dim ond aros rŵan am ganlyniadau microbiolegol gan Iechyd yr Amgylchedd fydd yn golygu 'mod i'n gallu storio'r caws gartref. Mae hi'n anodd credo ein bod wedi dod cyn belled.

     
    Little Welsh Cheese Company

    Ni dyma unig fenter Jo. Mae hi a'i gŵr Rob eisoes yn cynnal busnes gwely a brecwast o'r enw Hope Mountain ym Mryniau Clwyd . Maent yn gwbl ymroddedig i'r angen i hybu twristiaeth a ffordd o fyw gynaliadwy a phwysigrwydd cadw cydbwysedd rhwng anghenion yr ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r gymuned leol.

    Mae sefydlu'r Little Welsh Cheese Company yn rhan o'r ethos hwn, ac mae Jo yn gobeithio gwerthu ei chynnyrch i'w gwesteion yn ogystal â thrigolion lleol. Dechreuodd y cwmni dreialu cawsiau Cheddar a Gouda yng Ngorffennaf 2014 a bydd y ddau fath ar gael i'w prynu o fis Medi 2015 ymlaen.

    Caiff y cawsiau eu cynhyrchu â llaw yn y "dull traddodiadol" yn Llangefni, Môn ac maent yn addas ar gyfer llysieuwyr. Mae'r holl gaws yn cael ei bwyso a'i adael i aeddfedu, rhai yn eu rhisgl naturiol eu hunain, yn seler gaws bwrpasol Hope Mountain. Mae'n rhaid gadael i gaws Cheddar Cymreig aeddfedu er mwyn datblygu ei flas a'i ansawdd unigryw ei hun a gall hyn gymryd hyd at 12 mis. Maent hefyd yn cochi caws yn Hope Mountain gan ddefnyddio darnau o bren derw; "mae cochi yn rhoi dimensiwn arall i flas ac ansawdd y caws".

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Sefydlwyd y Little Welsh Cheese Company ar ôl i Jo fynd ar gwrs gwneud caws yn 2013. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad ar sut i wneud caws caled ac fe'i hanelir at unrhyw un sy'n bwriadu dechrau cynhyrchu caws, sy'n ymwneud â chynhyrchu, rheoli ansawdd, neu brynu neu werthu caws:

    Des i ar draws y cwrs ar ddamwain. Dw i'n meddwl i mi fynd i gyfarfod neu ffair fwyd lle'r oedd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd stondin. Es i ar y cwrs a dyna'r man cychwyn.

    Roedd arni awydd penodol i gynhyrchu caws Cheddar a Gouda ac roedd staff y Ganolfan Technoleg Bwyd yn gallu ei helpu gyda hyn.

    Treuliodd Jo dri diwrnod yn y Ganolfan yn creu ei chynnyrch gan ei adael yno i aeddfedu. Doedd Jo "ddim yn hapus" pan brofodd y caws am y tro cyntaf, ond awgrymodd staff y Ganolfan ei bod "hi'n aros am ychydig i weld". Roedd problemau personol wedi ei hatal rhag ymweld â'r Ganolfan am rai misoedd, ond pan ddychwelodd roedd pethau wedi newid:

    Roedd y caws yn berffaith! Dywed rhai bod pethau'n digwydd am reswm, ac roeddwn yn teimlo bod hyn yn wir. Roedd angen rhoi amser i'r caws aeddfedu.

    Fel rhan o'r broses cafodd Jo hefyd wybod am systemau diogelwch bwyd, cyngor technegol, a dadansoddiad maeth a phrofion micro ar ei chynnyrch er mwyn sicrhau "ei fod yn ddiogel".

    Manteision y Gefnogaeth

    Heb gefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd ni fyddai Jo wedi cael y wybodaeth a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i gynhyrchu caws a dechrau ei busnes. Yn wir, ni fyddai wedi "gwybod lle i ddechrau".

    Rhoddodd y gefnogaeth hyder iddi greu a lansio'r Little Welsh Cheese Company ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am y Ganolfan:

    Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn cynhyrchu caws ond mae'n broses hir a doedd gen i ddim syniad sut i fynd ati. Roedd staff y Ganolfan yn wych ac maent wedi dysgu i mi popeth sydd ei angen i gynhyrchu fy nghaws fy hun.

    Creda bod "angerdd" ac "egni"'r staff tuag at eu gwaith, a'u gwybodaeth a'u harbenigedd wedi golygu ei bod "mewn dwylo diogel" ac wedi ei chymell i lwyddo.

    Er mwyn profi'r cynnyrch a'r farchnad aeth â samplau o'r caws i'r Sioe Frenhinol a'i chysylltiad â'r Ganolfan Technoleg Bwyd a wnaeth hyn yn bosibl:

    Cefais gyfle gwych, a theimlaf na fyddwn yn y sefyllfa yma heddiw oni bai am gefnogaeth a chysylltiadau'r Ganolfan

    Cynlluniau at y dyfodol

    Caiff y Little Welsh Cheese Company ei lansio'n swyddogol fis Medi 2015 ac mae Jo yn gobeithio cyflenwi siopau bwyd a delicatessans lleol yn ogystal â ffeiriau bwyd. Gobeithia gystadlu mewn nifer o gystadlaethau hefyd gan gynnwys Gwobrau Caws Rhyngwladol Nantwich:

    Rydw i eisiau cynhyrchu caws da a dw i hefyd eisiau rhannu'r hyn rydw i wedi'i ddysgu fel cwmni bach ag eraill.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Ar ôl gweithio gyda'r Little Welsh Cheese Company does dim amheuaeth gennym na fydd y cynnyrch hwn yn cyrraedd y nod o fod yn enw adnabyddus o ansawdd uchel. Ann Marie Flinn, Uwch Dechnolegydd Bwyd

     
  • Yr Ardd Fadarch
    Cyflwyniad

    Sefydlwyd Yr Ardd Fadarch yn Eryri gan Cynan Jones yn 2003.   Erbyn hyn mae'n fusnes teuluol sefydledig sy'n cyflogi Cynan ei hun, ei wraig June, eu mab Rhys a'u merch Megan i gyd yn rhan amser.

    Yn wreiddiol roedd y busnes yn rhan o gynllun arallgyfeirio ffermydd gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor, oedd wedi gweld cyfle i feithrin mathau arbennig o fwyd (gan gynnwys madarch) mewn rhannau o Eryri.  Roedd y cynllun yn cynnwys ymchwil i ba gnydau allai gael eu tyfu wrth arallgyfeirio tir amaethyddol:

    Roeddem ni eisiau achub ar y cyfle i barhau i weithio ar y fferm ac i dyfu madarch hefyd. Roedd gen i ddiddordeb wedi bod erioed mewn madarch gwyllt.

     
    The Mushroom Garden

    Penderfynodd Cynan ymchwilio ymhellach i'r posibiliadau gan ddechrau â madarch gwyllt Eryri cyn troi at feithrin madarch egsotig yng Nghymru. Mae wedi dod yn un o'r arbenigwyr pennaf ar fadarch yng Nghymru ac mae'n aml yn cynnal cyrsiau ar fadarch yn ogystal â theithiau i chwilio amdanynt.

    Mae eu madarch enwocaf yn cynnwys y Shiitake , a'r Oyster sy'n cael eu gwerthu'n genedlaethol. Mae 10% o'u madarch yn cael eu gwerthu'n ffres a'r 90% arall yn cael eu piclo, eu sychu, neu'u prosesu i fod yn ychwanegion at fwyd. Maent wedi ennill sawl gwobr 'Great Taste' am eu cynnyrch sy'n cynnwys Shiitake wedi'i sychu, sesnin Umami, sesnin Mecsicanaidd a phowdr madarch Shiitake. Maent hefyd yn gwerthu pecynnau madarch i chi eu tyfu gartref.

    Caiff y madarch i gyd eu tyfu dan amodau sy'n cael eu rheoli ac mae niwl a glaw Cymru yn sicrhau eu bod yn ffynnu. Mae'r cynnyrch yn amgylcheddol gyfeillgar hefyd gan fod y madarch yn tyfu ar flociau derw Cymreig. Esbonia Cynan:

    Dydyn ni ddim yn ffatri ar fferm fawr sy'n defnyddio cemegau yn ein prosesau; rydym ni wedi llwyr ymrwymo i redeg busnes lleol ecogyfeillgar sy'n canolbwyntio ar ansawdd.

    Caiff y madarch eu gwerthu mewn siopau lleol, siopau cigydd, delicatessans a neuaddau bwyd, a'u gwerthwr mwyaf yw Booths, sy'n berchen ar 30 siop ar draws y DU. Mae'n well gan y busnes ganolbwyntio ar gadw ansawdd "arbennig" ac "artisan" eu cynnyrch felly maent wedi penderfynu peidio â gwerthu i archfarchnadoedd mwy. Mae Cynan yn falch iawn bod y cynnyrch wedi cael ei werthu ers dwy flynedd yng Nghanolfan Japan yn Llundain ac mai dyma'r unig gynnyrch Ewropeaidd sydd yno. Caiff y cynnyrch ei werthu hefyd mewn ffeiriau a marchnadoedd bwyd.

    Daw 80% o'r cynnyrch o ffynonellau lleol.

    Cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Dechreuodd Cynan ddefnyddio gwasanaethau'r Ganolfan Technoleg Bwyd tua 10 mlynedd yn ôl pan oedd wrthi'n sefydlu'r busnes. Ar y pryd, roeddent wrthi'n datblygu'r cynnyrch ac yn "bod yn ofalus iawn" ar sut i fuddsoddi yn y busnes.

    Roedd cymorth y Ganolfan Technoleg Bwyd yn caniatáu iddynt strwythuro a rheoli datblygiad cynnyrch newydd heb gymryd gormod o risg ariannol oherwydd eu bod yn gallu llogi cyfleusterau a thalu'n ddyddiol. Roedd y cyngor ar ddatblygu syniadau a phrofi prototeip cynnyrch yn ansoddol ac yn feintiol yn fanteisiol i Cynan wrth sefydlu'r busnes yn y dyddiau cynnar hynny.

    Roedd y gefnogaeth roedd ei hangen ar y dechrau'n "wahanol iawn" i'r gefnogaeth sydd ei hangen ar Yr Ardd Fadarch rŵan. Creda fod y Ganolfan wedi bod yn llwyddiannus wrth ddiwallu eu hanghenion ar "bob cam o'r ffordd".

    Ar y dechrau roeddem yn edrych a fyddai'r holl beth yn gweithio a chael y gofod i wneud hynny. Erbyn hyn rydym yn edrych yn benodol ar ddatblygu cynnyrch newydd, profi cynnyrch a brandio.

    Yn ddiweddar, mae Cynan wedi defnyddio nifer o'r gwasanaethau i gael cyngor technegol ar gymysgu gwahanol fathau o sesnin ac i gynnal profion cyfnod silff a phrofion micro. Maent wedi cael budd o'r cyfleusterau sydd ar gael yn labordy microbiolegol y Ganolfan. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnig dull o olrhain popeth a Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) ar gyfer pob math o ddadansoddiadau.

    Ni theimla Cynan fod angen gwella ar y gefnogaeth yn y Ganolfan Technoleg Bwyd. Esbonia: "Maen nhw wedi rhoi popeth oedd ei angen arnom, ac wedi'n cefnogi ym mhob ffordd bosib. Maent yn gynnig gwasanaeth gwerthfawr tu hwnt."

    Manteision y Gefnogaeth

    Creda Cynan fod y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi cael effaith bositif ar ddatblygiad a thwf Yr Ardd Fadarch. Oherwydd bod y Ganolfan mor agos i'r busnes, mae ei dealltwriaeth o'r ardal a'r marchnadoedd lleol wedi bod yn fanteisiol i ddarparu "llwyfan" i ehangu. Pwysleisiodd werth eu harbenigedd a'u dealltwriaeth i'r busnes:

    Byddai'r busnes dwy flynedd ar ei hôl hi oni bai am y cymorth a roddwyd. Mae wedi'n galluogi i weithio'n gyflymach ar ddatblygu a lansio cynnyrch newydd.

    Mae'r gefnogaeth a'r "cyngor technegol" hefyd rhoi hyder i'r busnes dorri i mewn i farchnadoedd mwy. Maent wedi gallu manteisio ar gysylltiadau'r Ganolfan i weithio gyda manwerthwyr a ffeiriau bwyd o ansawdd.

    Eleni bydd Yr Ardd Fadarch yn arddangos ei chynnyrch yn y Speciality Fine Food Fair yn Llundain, yn ogystal â lansio cynnyrch newydd a ddatblygwyd yn y Ganolfan. "O gymharu â gwledydd eraill credaf ein bod yn lwcus iawn yng Nghymru i gael cefnogaeth o'r fath."
    Cynlluniau at y dyfodol

    Mae'r Ardd Fadarch yn gobeithio ehangu yn y dyfodol gan gynyddu cynnyrch a gwerthiant y cwmni. Byddant yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn ôl yr angen:

    Rydym wastad yn chwilio am bethau newydd ar gyfer y farchnad felly byddwn yn parhau i feddwl am syniadau newydd ac i ddatblygu cynnyrch newydd.

    Adborth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd

    Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn falch iawn o gael gweithio gyda'r Ardd Fadarch gan eu bod o hyd yn frwd i ddatblygu cynnyrch gwreiddiol, newydd. Gyda chyngor technegol y Ganolfan Technoleg Bwyd i ddatblygu'r cynnyrch mae'r cwmni'n mynd o nerth i nerth gan gadw'n driw i'r egwyddor o ddefnyddio dulliau cynhyrchu moesegol. Martin Jardine, Food Technology Centre Manager

     

Gwybodaeth

Eisiau ein help gyda'ch prosiect?

Cysylltwch â ni heddiw ar 01248 383 345, neu ebost ftc@gllm.ac.uk, a byddwn yn hapus i'ch helpu.

Llyfryn

Lawrlwytho

Llyfryn

 
Food Technology Centre Logo

Coleg Menai

Ffordd Penmynydd
Llangefni
LL77 7HY
01248 383 345

Food Technology Centre

Trosglwyddo gwybodaeth i’r sector Bwyd a Diod.

Transferring knowledge to the Food & Drink sector.


Grwp Llandrillo Menai