Gwobr Cigydda

Aelod o staff Coleg Menai yn cael ei wobrwyo gan y Cwmni Anrhydeddus o Fwtsieriaid a’r Cyngor Hyfforddiant Cig (The Worshipful Company of Butchers and Meat Training Council). mwy
Dathlu Llwyddiant!

Fe dalodd Coleg Menai deyrnged i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog yn Galeri, Caernarfon. mwy
Cynllun CAD/CAM
Ar y prif gampws ym Mangor mae gennym y cyfleusterau i gynllunio a hybu eich cynnych gan ddefnyddio'r dechnoleg CAD/CAM diweddaraf yn dangos delweddau realistig a chlipiau fideo heb fod angen cynhyrchu. Mae'r cyfleuster cost-effeithiol hwn yn galluogi'r cynllunydd cynnyrch i greu pecynnu neu yn wir rannau offer heb y gost o fynd drwy'r broses profi a methu o gynhyrchu prototeip.
Mae'r gyfadran Dechnoleg yn meddu ar rai o'r meddalwedd diwydiannol mwyaf datblygedig ac yn prototeipio systemau cynhyrchu sydd yn darparu cymorth gwerthfawr gyda datblygu cynnyrch, prosesau a phecynnu.

Gelli gweld modylau 3D realistig o gynnyrch a phecynnu ar sgrin gan alluogi'r dyluniwr i'w hastudio mewn manylder cyn symud ymlaen i greu'r cynnyrch gorffenedig, yn ogystal ag arsylwi ar gynllun a dadansoddiad o offer a chydrannau proses. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys y cynllunio a dadansoddi'r pecyn ac offer yn ogystal â'r cynhyrchu prototeip o offer, llifynnau, mowldiau offer a chydrannau proses.
Yn dibynnu ar y cynnyrch, gall cynllunwyr ffurfio drwy faciwm bolymerau neu weldiadau a chynhyrchu mewn ystod o ddeunyddiau - gan gynnwys dur gwrthstaen a pholymerau. I gwblhau'r cynllun cynnyrch gan wneud profi tynnol a chywasgol yn ogystal â phrofion i ddynodi caledwch y cynnyrch.
Mae cynllunio a chynhyrchu cynnyrch a phrototeip gan ddefnyddio CAD/CAM a modelu soled ddim ond yn ennghreifftiau o ddau faes o arbenigedd ar gael yn y Gyfadran Technoleg.
Gellir gwneud dadansoddiad deunydd a strwythurol, ynghyd â dadansoddiad ystadegol o'r cynnyrch a'r cynllun cynnyrch.
Mae datblygu cynnyrch neu brosesau newydd yn y diwydiant technoleg bwyd heb yr angen am gynhyrchu yn fantais sylweddol ac yn ddatrysiad sy'n arbed amser wrth lansio cynnyrch newydd.











