Mae'r cyfleusterau yn yr CTB yn cynnwys neuaddau prosesu pwrpasol ar gyfer cig a physgod ffres, cynhyrchion y llaethdy a bwydydd parod; ystafell hyfforddi; cegin brofi ar gyfer datblygu cynhyrchion; labordy dadansoddi; ac ystafell fideogynadledda.
Hafan / Trosglwyddo gwybodaeth i'r sector Bwyd a Diod / / Yn ô i'r dudalen flaenorol
Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn 1999 ac mae'n chwarae rôl allweddol o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru ac ar draws y DU.
Gan weithio yn agos gyda busnesau bwyd er mwyn eu cynorthwyo i ennill mantais gystadleuol, mae gan y GTB adnoddau un pwrpas sydd yn galluogi busnesau bwyd i gael mynediad i gefnogaeth dechnegol, datrysiadau ymarferol, cyngor ac arweiniad ar feysydd sydd yn allweddol i dwf busnes.
Gyda'r nod hir dymor o ddatblygu gallu i brosesu a chynhyrchu busnesau bwyd, anelwn at ddatblygu enw da Cymru a'r DU am gynhyrchu bwyd a diod arloesol sydd o'r ansawdd uchaf.
Mae'r cyfleusterau yma'n caniatáu i'r CTB ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i'r diwydiant bwyd, yn cynnwys gwaith ymchwil a datblygu, cyngor technegol, trosglwyddiad technoleg a cyrsiau hyfforddi sydd wedi'u teilwra'n benodol i gleientiaid. Mae'r Ganolfan hefyd yn darparu sgiliau ar gyfer y sector bwyd amaethyddol y gellir eu trosglwyddo i'r gweithlu gwledig er mwyn meithrin gweithgareddau entrepreneuraidd.
Gwybodaeth
Cysylltwch â ni heddiw ar 01248 383 345, neu ebost ftc@gllm.ac.uk, a byddwn yn hapus i'ch helpu.
Lawrlwytho
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. Drwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn caniatáu hyn. Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
We use cookies on our website. By using the website, you consent to this. Click here for further information.